Cynllun Mentora TAR AHO 24-25
Cynllun i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs TAR AHO, ac yn siarad Cymraeg.
Wyt ti eisiau gwybod mwy am ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru a buddio o gyngor mentor profiadol?
Rydyn ni’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sy’n astudio cwrs TAR AHO, sy’n astudio unrhyw bwnc, sy’n siarad Cymraeg, ac sydd eisiau gwybod mwy am ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector ôl-orfodol i gymryd rhan yn y Cynllun Mentora TAR AHO 24-25.
Beth fydd yn cael ei gynnwys?
- 6 sesiwn mentora (awr yr un) gyda darlithiwr mewn coleg addysg bellach sy’n gallu rhannu profiadau gyda ti
Bydd y sesiynau mentora’n gyfle i ti ddod i ddeall mwy am sut mae darlithwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd a’r profiad o fod yn ddarlithiwr yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Hefyd, bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau i rywun sy wedi bod trwy’r broses yn ddiweddar a chael atebion onest.
Y manteision
Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn dy helpu di i:
- ychwanegu sgiliau a phrofiadau at dy CV
- godi hyder yn dy sgiliau Cymraeg
- ddangos i ddarpar gyflogwyr dy fod yn hapus i ddefnyddio dy sgiliau Cymraeg
- ddeall mwy am ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector a chael cyfle i ofyn cwestiynau pwysig
Os wyt ti eisiau gofyn unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysyllta â Haf Everiss ar h.everiss@colegcymraeg.ac.uk