Skip to main content Skip to footer

Cynllun Sbarduno

Cynllun Sbarduno 2025-26

Mae’r Cynllun Sbarduno yn gynllun mentora ar gyfer siaradwyr Cymraeg Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Pwrpas y cynllun yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg i fagu hyder a datblygu eu sgiliau Cymraeg wrth wneud penderfyniadau am y dyfodol. Mae’r mentoriaid yn cynnal 5 sesiwn mentora ar-lein gyda pherson ifanc 16-19 oed. I fod yn fentor ar y cynllun, bydd angen cwblhau DBS, ac mae’r cyfle yn un sy’n cynnig tâl. 

Lansiwyd y cynllun gan y Coleg Cymraeg yn 2023-24, lle derbyniodd 8 myfyriwr 16-19 oed sesiynau mentora gan unigolion profiadol. Roedd y flwyddyn gyntaf yn llwyddiant, gyda mentoriaid yn awyddus i ymuno gyda ni am ail flwyddyn, a’r disgyblion wedi elwa o glywed profiadau’r mentoriaid.  Yn 2024–25, tyfodd y cynllun ymhellach, gyda mwy o bobl ifanc a mentoriaid yn ymuno â'r cynllun. 

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb ac rydym yn awyddus i gynnig cyfleoedd i bawb defnyddio’i sgiliau Cymraeg. Dewch i ymuno gyda ni!

 

Recriwtio mentoriaid

Rydym nawr yn recriwtio mentoriaid ar gyfer y flwyddyn 2025-26! Llenwch y ffurflen ganlynol i ddatgan eich diddordeb.

Ffurflen Mentoriaid

Recriwtio Myfyrwyr

Rydym nawr yn recriwtio disgyblion 16-19 oed i fod yn rhan o'r cynllun eleni! Llenwa'r ffurflen gofrestru i ymgeisio am y cynllun.

Ffurflen gofrestru myfyrwyr