Cynllun Strategol 2026-2031
Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio ei Gynllun Strategol newydd ar gyfer y cyfnod 2027-2032 ym mis Tachwedd 2026.
Diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad allanol ar y cynllun drafft. Cawsom nifer sylweddol o ymatebion gan randdeiliaid ar draws y sector, ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr amser a'r ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno sylwadau ac awgrymiadau gwerthfawr. Mae'r adborth a dderbyniwyd wedi cael ei ystyried ac wedi cyfrannu at lunio'r cynllun terfynol.
Edrychwn ymlaen at gyhoeddi'r Cynllun Strategol newydd ac at barhau i gydweithio'n agos gyda'n partneriaid a rhanddeiliaid wrth wireddu'r weledigaeth a rhoi'r blaenoriaethau strategol ar waith dros y pum mlynedd nesaf.
CYNLLUN STRATEGOL 2020/21-2024/25
Mae’r Cynllun Strategol hwn, ar gyfer y cyfnod hyd at 2025, yn mynegi ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer swyddogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel corff arweiniol sy’n gwreiddio’r Gymraeg fel rhan hanfodol o batrwm dysgu gydol oes pobl Cymru, ac yn benodol yng nghyd-destun addysg ôl-16 ac addysg uwch.
Gwyliwch animeiddiad byr sy'n crynhoi prif negeseuon y cynllun neu lawrlwythwch y ddogfen lawn.