Skip to main content Skip to footer

Fframwaith Cymwyseddau Iaith

Beth yw’r Fframwaith? 

Mae’r Fframwaith Cymwyseddau Iaith ar gyfer Ymarferwyr Addysg yn ffordd o ddangos beth all athrawon a chynorthwywyr dosbarth ei wneud yn Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth ar bob lefel o sgiliau iaith. 

Dyma rai enghreifftiau: 

  • Lefel Mynediad: Rwy’n gallu ysgrifennu brawddegau syml bob dydd, sy’n berthnasol i gyd-destun yr ysgol e.e. cyfarwyddiadau, cwestiynau, gorchmynion, adborth syml 
  • Lefel Uwch: Rwy’n gallu deall y rhan fwyaf o drafodaethau, hyd yn oed am bynciau anghyfarwydd ac arbenigol e.e. mewn cyd-destun ffurfiol

 

Sut mae’r Fframwaith yn cael ei ddefnyddio? 

Mae’r Fframwaith yn helpu i fesur a nodi'r cynnydd yn sgiliau iaith athrawon, cynorthwywyr dysgu a’r rhai sy’n hyfforddi i fod yn aelodau o’r gweithlu addysg.  

Mae pobl sy’n gwneud rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yn nodi tystiolaeth yn erbyn y Fframwaith yn eu Pasbortau Dysgu Proffesiynol. 

Rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

Mae’r Coleg Cymraeg yn gweithio i sicrhau bod y Fframwaith yn cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd ar draws yr holl bartneriaethau sy’n cynnig rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Ry’n ni’n rhedeg proses gymedroli bob blwyddyn i sicrhau cysondeb.