Gwobrau 2026
Pob blwyddyn, mae’r Coleg yn rhoi nifer o wobrau i unigolion disglair am waith, cyflawniad neu gyfraniad rhagorol.
Mae'r gwobrau wedi eu sefydlu mewn gwahanol feysydd ac mae Paneli Dyfarnu unigol ar eu cyfer. Yn ogystal â’r gwobrau hyn, mae’r Coleg hefyd yn urddo Cymrodyr Er Anrhydedd.
Mae manylion yr holl wobrau i'w gweld isod.
Mae'r ffenestr enwebu ar agor rhwng 26 Ionawr - 23 Chwefror 2026
Llenwch y ffurflenni enwebu yma i enwebu unigolyn am wobr:
Ffurflen enwebu Gwobrau Addysg Uwch
Ffurflen enwebu Gwobrau Addysg Bellach
Ffurflen enwebu Gwobr sector Drydyddol
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn noson wobrau'r Coleg yng Nghaerdydd ar y 17 Mehefin 2026.
Manylion am y Gwobrau
Gwobr Gwyn Thomas
Y Traethawd Estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg fel pwnc academaidd.
Gwobr John Davies
Y Traethawd Estynedig gorau yn y Gymraeg ar Hanes Cymru.
Gwobr Merêd
Cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol yn ehangach.
Gwobr 'Dathlu'r Darlithydd'
Mae Gwobr 'Dathlu'r Darlithydd' yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.
Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce
I gydnabod prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle.
Gwobr Addysgwr Arloesol
Cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol.
Gwobr am gyfoethogi profiad y dysgwr/prentis.
Cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector am gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiol sefyllfaoedd llai ffurfiol.
Gwobr Llais y Gymraeg
Mae’r Wobr hon yn cydnabod cyfraniad dysgwr sydd yn aelod cyfredol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach.
Gwobr Ysbrydoli Eraill
Dyfernir y wobr hon i fyfyriwr sydd ym mlwyddyn 12 neu 13 sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol Uwchradd Cymraeg neu ddwyieithog. Mae’r Wobr yn cydnabod cyfraniad positif disgybl yn dylanwadu ac ysbrydoli disgyblion eraill o fewn yr ysgol a thu hwnt, i ddefnyddio’r Gymraeg. Dylai enwebiadau gael eu cyflwyno gan Benaethiaid Chweched Dosbarth yn unig. Dim ond un enwebiad y caniateir fesul ysgol.
Gwobr Annog Disgyblion
Dyfernir y wobr hon i Athro sydd wedi cymell a chefnogi disgyblion i barhau â’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg trwy flwyddyn 12 a 13, a thu hwnt.
Gwobr Cyfraniad Arbennig – Sector Trydyddol
Dyfernir y wobr hon i unigolyn o’r sector drydyddol sydd wedi dylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn eu sefydliad.
Gwobr Iechyd a Gofal – Sector Trydyddol
Mae’r wobr hon yn cydnabod prosiect neu gyfraniad arloesol a gyflawnwyd drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgwr neu aelod o staff yn y sector trydyddol ym maes iechyd a gofal. Gall y prosiect fod yn rhan o waith academaidd, gweithgaredd allgyrsiol, mentrau cymunedol neu ddatblygiad proffesiynol sy’n cyfrannu at gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector.
Mae’r wobr yn agored i enwebiadau o'r sectorau Addysg Uwch, Addysg Bellach a Phrentisiaethau — gan adlewyrchu amrywiaeth y dulliau dysgu sydd ar gael, yn ogystal â’r rôl hanfodol y mae pob un yn ei chwarae wrth ddatblygu gweithlu dwyieithog ym maes iechyd a gofal.
Gwobr Norah Isaac
Y canlyniad gorau gan fyfyriwr israddedig yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.
Gwobr Gwerddon
I gydnabod erthygl ragorol sydd wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Gwerddon'.
Cyn Enillwyr
Gwobr Gwyn Thomas
Y Traethawd Estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg fel pwnc academaidd.
Rhodri Siôn (2017)
Lowri Havard (2019)
Iestyn Tyne (2019
Gruffydd Rhys Davies (2020)
Nia Eyre (2021)
Catrin Eleri Huws (2022)
Roger Stone (2023)
Esyllt Einion (2024)
Dafydd Huw Griffiths (2025)
Gwobr John Davies
Y Traethawd Estynedig gorau yn y Gymraeg ar Hanes Cymru.
Catrin Howells (2016)
Ceiri Coker (2017)
Elen Mererid Osmond Hughes (2018)
Michelle Rafferty (2019)
Llinos Mai Anwyl Evans (2020)
Anwen Rhiannon Jones (2021)
Charles Roberts (2022)
Annell Dyfri (2023)
Glain Meleri Hughes (2024)
Thomas Pugh (2025)
Gwobr Merêd
Cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol yn ehangach.
Trystan Ap Owen (2015)
Dan Rowbotham(2016)
Lauren Evans (2017)
Gwyn Aled Rennolf (2018)
Rebecca Martin (2019)
Tomos Evans (2020)
Owain Beynon (2021)
Alpha Evans (2022)
Deio Owen (2023)
Priya Dodiya (2024)
Gemma Waite (2025)
Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol
Am greu adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.
Elin Royles a Huw Lewis (2019)
Rhys Jones, Marie Busfield, Hywel Griffiths, Cerys Jones, Rhys D Jones (2020)
Jeni Price (2021)
Llyr Roberts (2022)
Rhian Hodges a Cynog Prys (2023)
Alwena Morgan (2024)
Carwyn Jones (2025)
Gwobr Cyfraniad Eithriadol
Am gyfraniad eithriadol i addysg uwch (tu hwnt i rôl broffesiynol). Nid yw’r categori hwn yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar gyfraniad oes – mae modd cydnabod unigolion am gyfraniad dros gyfnodau byrrach lle bu'r effaith yn nodedig.
Lowri Cunnington Wyn (2021)
Gwenan Prysor (2022)
Dr Hywel Griffiths (2023)
Elen Mai Nefydd (2024)
Mirjam Plantinga (2025)
Gwobr 'Dathlu'r Darlithydd'
Mae Gwobr 'Dathlu'r Darlithydd' yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.
Geraint Forster (2021)
Gethin Thomas (2022)
Gwyneth Richards (2023)
Rhian Griffiths (2024)
Non Vaughan Williams (2025)
Gwobr Hwyluso Addysg Cyfrwng Cymraeg
Llŷr Roberts ac Eleri Pryse (2019)
Rhys Jones (2020)
Gwobr Arloesi ar draws ffiniau
Iwan Thomas (2019)
Tîm JOMEC (2020)
Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce
I gydnabod prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle.
Osian James (2023)
Cerys Brown (2024)
Claire Elizabeth Hughes (2025)
Gwobr Addysgwr Arloesol
Cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol.
Lowri Bugg (2023)
Marion Evans (2024)
Med Richards (2025)
Gwobr am Gyfraniad Arbennig
Bydd y wobr hon yn cael ei rhoi i aelod o’r tîm rheoli sy'n dylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn ei sefydliad.
Carys Swain (2023)
Amy Thomas (2024)
Lisa Waters (2025)
Gwobr am gyfoethogi profiad y dysgwr/prentis.
Cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector am gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiol sefyllfaoedd llai ffurfiol.
Sian Chandler (2023)
Sophia Randall (2024)
Lisa Evans (2025)
Mae’r Coleg hefyd yn rhoi dwy wobr ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth William Salesbury:
Gwobr Meddygaeth William Salesbury
Cydnabod arloesedd prosiect ymchwil neu gyfraniad at weithgareddau cyfredol allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.
Clwb y Mynydd Bychan (2021)
Dwynwen Spink (2022)
Branwen Jones, Sara Gwyn a Niamh Goodwin-Thomas (2023)
Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes (2024)
Heledd Evans (2025)
Gwobr Addysg Bellach William Salesbury
Cydnabod cyfraniad dysgwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach.
Ifan Phillips (2021)
Ffion Llewelyn (2022)
Yvon Sebastian Landais (2023)
Olivia Williams (2024)
Luca McAlpine (2025)
Gwobr Ysbrydoli Eraill
Aminata Jeng, Ysgol Gymraeg Llangynwyd (2025)
Jacob Simmonds, Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw (2025
Gwobr Norah Isaac
Y canlyniad gorau gan fyfyriwr israddedig yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.
Cerith Rhys Jones (2014)
Manon Elwyn Hughes (2015)
Meinir Olwen Williams (2016)
Aneirin Karadog (2017)
Anna Wyn Jones (2018)
Cerian Fflur Colbourne (2019)
Gruffydd Rhys Davies (2020)
Sioned Spencer (2021)
Catrin Llwyd (2022)
Elin Bartlett (2023)
Owain Huw Parry (2024)
Sion Ifan Jones (2025)
Gwobr Eilir Hedd
Gwobr am gyfraniad nodedig unigolyn o dan ddeugain oed i faes gwyddorau ac addysgu’r gwyddorau drwy’r Gymraeg.
Dr Huw Morgan (2014)
Hywel Griffiths (2015)
Siwan Davies (2016)
Prysor Williams (2017)
Tudur Davies (2018)
Maire Busfield (2019)
Hefin Wyn Williams (2021)
Rhian Hedd Meara (2023)
Cerys Jones (2025)
Gwobr Gwerddon
I gydnabod erthygl ragorol sydd wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Gwerddon'.