Skip to main content Skip to footer

Maniffesto 2026

 

clawr maniffesto Coleg Cymraeg 2026

Maniffesto 2026

Llwybrau i'r Gweithle:

Gweledigaeth ar gyfer addysg drydyddol Gymraeg a dwyieithog: 2026 i 2030

Ar drothwy etholiad Senedd Cymru yn 2026, mae’r Coleg Cymraeg yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i osod dau nod er mwyn gwireddu ein gweledigaeth bod pob dysgwr yn defnyddio, cynnal a datblygu eu Cymraeg ar hyd eu taith addysgol, ac yna yn y gweithle:

  • Cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn llwybrau Cymraeg a dwyieithog drwy’r system addysg gyfan, a’r sector trydyddol yn arbennig.
  • Cynyddu’r nifer sy’n gallu ac yn dewis gweithio’n ddwyieithog, gan gynnwys y gweithlu addysg. 

Darllennwch ein maniffesto llawn islaw sy'n cynnwys chwe chynnig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar sut i gyflawni'r ddau nod uchod.

Os hoffech drafod ein cynigion neu gael mwy o fanylion ynghylch elfennau penodol, cysylltwch â polisi@colegcymraeg.ac.uk  

Archif

Dysgu gydol oes Cymraeg a dwyieithog: gweledigaeth ar gyfer y sector ôl-orfodol yng Nghymru (2020 i 2025)