Medr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) i gynghori Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) mewn perthynas â’i ddyletswyddau yn ymwneud â’r Gymraeg.
Mae’r dudalen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch Medr, y dynodiad, y cyd-destun polisi a deddfwriaethol, a gwaith y Coleg yn cynghori Medr.
Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (y Ddeddf) yn sefydlu Medr, corff hyd-braich sydd yn gyfrifol am gyllido a goruchwylio addysg ac ymchwil ôl-16 o fis Awst 2024.
Mae cyfrifoldebau Medr dros y sector addysg drydyddol yn cynnwys chweched dosbarth mewn ysgolion, colegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a darparwyr addysg oedolion.
Mae’r Ddeddf yn gosod 11 o ddyletswyddau strategol ar Medr. Mae un o’r rheiny, Adran 9, yn ymwneud â hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg:
9(1) Rhaid i’r Comisiwn —
- annog y galw am addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi;
- cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg i ateb y galw;
- annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg –
- gan ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru, a
- gan bersonau eraill sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.
Yn unol ag adran 9(2) y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi “dynodi” y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel “person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn” at ddiben cynorthwyo Medr i gyflawni ei ddyletswyddau o dan 9(1).
Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y Coleg a Medr
Mae’r Coleg a Medr wedi cyhoeddi memorandwm o ddealltwriaeth yn amlinellu sut bydd y Coleg yn cynghori Medr ar ei ddyletswyddau statudol i gynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol ac annog y galw amdano. Yn unol â’r memorandwm, bydd Medr yn ystyried yn llawn y cyngor a gyflwynir iddo gan y Coleg.
- Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y Coleg a Medr
Blaenoriaethau strategol Medr
Ym mis Chwefror 2024 gosododd Lywodraeth Cymru y blaenoriaethau strategol canlynol ar Medr:
- Datblygu system drydyddol sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer economi ddeinamig a chyfnewidiol lle gall pob un gaffael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo mewn bywyd a gwaith.
- Cynnal a gwella ansawdd y system drydyddol, parhau a dwysáu gwaith ar ehangu cyfranogiad a chymryd camau i sicrhau system fwy teg a rhagorol i bawb.
- Rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system drwy ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn y system drydyddol a'u llesiant.
- Sicrhau bod y system addysg drydyddol yn cyfrannu at yr economi a'r gymdeithas.
- Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel sefydliad hynod effeithiol sy'n darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid.
Yn y datganiad o flaenoriaethau noda’r Gweinidog y dylai Medr:
D[d]atblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan, a'i hyrwyddo, gan gydnabod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y person dynodedig o dan Adran 9 o Ddeddf 2022 a Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol. Mae hyn yn rhan allweddol o'r llwybr di-dor i ddysgwyr at yr addysg drydyddol o'u dewis.
Yn y datganiad ysgrifenedig nodir yn ogystal ”[d]ylai pob llwybr fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg”.
Rhaid i Medr baratoi a chyhoeddi cynllun strategol sy’n nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau a sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Cyd-destun polisi a deddfwriaeth
Cymraeg 2050
Cymraeg 2050 yw strategaeth iaith Llywodraeth Cymru. Dau darged Cymraeg 2050 yw:
- Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
- Dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
Noda’r strategaeth bod addysg yn allweddol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr. Gosodir y ddau nod canlynol ar gyfer y sector addysg ôl-orfodol:
4: Addysg ôl-orfodol Datblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy'n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i'w defnyddio'n gymdeithasol ac yn y gweithle.
5: Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau Cynllunio er mwyn cynyddu a gwella'n sylweddol:
- y gweithlu addysg a hyfforddiant sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg,
- yr adnoddau a'r cymwysterau sydd eu hangen i gefnogi cynnydd yn y ddarpariaeth.
- Mae Memorandwm Esboniadol Deddf 2022 yn nodi “Bydd gan y Comisiwn rôl hollbwysig yng nghyd-destun y nodau allweddol [uchod]”.
Bil y Gymraeg ac Addysg
Ym mis Gorffennaf 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Mae’r Bil yn:
- rhoi sail statudol i’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill yn ymwneud â defnyddio’r iaith, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;
- sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail lefelau cyfeirio cyffredin y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar Ieithoedd (y CEFR);
- gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion, ynghyd â gofynion o ran swm yr addysg Gymraeg a ddarperir (yn cynnwys isafswm), a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau;
- cysylltu’r cynllunio ieithyddol a wneir ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel awdurdod lleol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg);
- sefydlu corff statudol, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fydd yn gyfrifol am gefnogi pobl o bob oedran i ddysgu Cymraeg.
Mae’r ddarpariaeth a amlinellir yn y Bil yn anelu at sefyllfa lle bydd pawb sydd yn gadael y sector addysg statudol yn siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol. Rhaid i Medr a’r sector drydyddol gynllunio ar gyfer y cyd-destun hwn.
Er na fydd y Bil yn dod yn Ddeddf tan ar ôl i Medr gyhoeddi ei gynllun strategol cyntaf, bydd cyngor y Coleg i Medr yn talu sylw i ddarpariaethau’r Bil ac uchelgais y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg ac addysg Gymraeg.
Cyngor y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Medr
Mae’r Coleg yn croesawu’r dynodiad gan Weinidogion Cymru i ddarparu cyngor i Medr ar ei ddyletswyddau yn unol ag Adran 9 y Ddeddf. Mae’r dynodiad yn gyfrifoldeb ychwanegol i’r Coleg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i gyhoeddi nodiadau cyngor ffurfiol a gyflwynir i Medr ar ei wefan.
Mae cyngor cychwynnol y Coleg i Medr i'w ganfod yn y ddolen isod.
I ddarllen ymateb Medr i gyngor cychwynnol y Coleg:
Am ragor o wybodaeth am Medr neu dynodiad y Coleg i gynghori Medr, e-bostiwch: polisi@colegcymraeg.ac.uk