Skip to main content Skip to footer

Medr

Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynghori Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) mewn perthynas â’i ddyletswyddau yn ymwneud â’r Gymraeg. 

Mae’r dudalen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch Medr, y dynodiad, y cyd-destun polisi a deddfwriaethol, a gwaith y Coleg yn cynghori Medr.  

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (y Ddeddf) yn sefydlu Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), corff hyd-braich sydd yn gyfrifol am gyllido a goruchwylio addysg ac ymchwil ôl-16 o fis Awst 2024. 

Mae cyfrifoldebau Medr dros y sector addysg drydyddol yn cynnwys chweched dosbarth mewn ysgolion, colegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a darparwyr addysg oedolion. 

Mae’r Ddeddf yn gosod 11 o ddyletswyddau strategol ar Medr. Mae un o’r rheiny, Adran 9, yn ymwneud â hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg:  

9(1) Rhaid i’r Comisiwn — 

  1. annog y galw am addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi;  

  1. cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg i ateb y galw; 

  1. annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg –  

  1. gan ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru, a 

  1. gan bersonau eraill sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.  

Yn unol ag adran 9(2) y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi “dynodi” y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel “person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn” at ddiben cynorthwyo Medr i gyflawni ei ddyletswyddau o dan 9(1). 

Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y Coleg a Medr 

Mae’r Coleg a Medr wedi cyhoeddi memorandwm o ddealltwriaeth yn amlinellu sut bydd y Coleg yn cynghori Medr ar ei ddyletswyddau statudol i gynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol ac annog y galw amdano. Yn unol â’r memorandwm, bydd Medr yn ystyried yn llawn y cyngor a gyflwynir iddo gan y Coleg. 

Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y Coleg a Medr 

Blaenoriaethau strategol Medr 

Ym mis Chwefror 2024 gosododd Lywodraeth Cymru y blaenoriaethau strategol canlynol ar Medr:  

  • Datblygu system drydyddol sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer economi ddeinamig a chyfnewidiol lle gall pob un gaffael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo mewn bywyd a gwaith.  

  • Cynnal a gwella ansawdd y system drydyddol, parhau a dwysáu gwaith ar ehangu cyfranogiad a chymryd camau i sicrhau system fwy teg a rhagorol i bawb.  

  • Rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system drwy ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn y system drydyddol a'u llesiant.  

  • Sicrhau bod y system addysg drydyddol yn cyfrannu at yr economi a'r gymdeithas.  

  • Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel sefydliad hynod effeithiol sy'n darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid.  

Yn y datganiad o flaenoriaethau noda’r Gweinidog y dylai Medr:  

D[d]atblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan, a'i hyrwyddo, gan gydnabod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y person dynodedig o dan Adran 9 o Ddeddf 2022 a Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol. Mae hyn yn rhan allweddol o'r llwybr di-dor i ddysgwyr at yr addysg drydyddol o'u dewis. 

Yn y datganiad ysgrifenedig nodir yn ogystal ”[d]ylai pob llwybr fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg”. 

Rhaid i Medr baratoi a chyhoeddi cynllun strategol sy’n nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau a sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol. 

Cymraeg 2050 

Cymraeg 2050 yw strategaeth iaith Llywodraeth Cymru. Dau darged Cymraeg 2050 yw: 

  • Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 

  • Dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050. 

Noda’r strategaeth bod addysg yn allweddol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr. Gosodir y ddau nod canlynol ar gyfer y sector addysg ôl-orfodol:  

Nod 4: Addysg ôl-orfodol Datblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy'n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i'w defnyddio'n gymdeithasol ac yn y gweithle. 

 

Nod 5: Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau Cynllunio er mwyn cynyddu a gwella'n sylweddol: 

  1. y gweithlu addysg a hyfforddiant sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, 

  1. yr adnoddau a'r cymwysterau sydd eu hangen i gefnogi cynnydd yn y ddarpariaeth. 

Mae Memorandwm Esboniadol Deddf 2022 yn nodi “Bydd gan y Comisiwn rôl hollbwysig yng nghyd-destun y nodau allweddol [uchod]”. 

Bil y Gymraeg ac Addysg  

Ym mis Gorffennaf 2024 cyhoeddwyd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)  

Mae’r Bil yn:  

  • rhoi sail statudol i’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill yn ymwneud â defnyddio’r iaith, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;   

  • sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail lefelau cyfeirio cyffredin y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar Ieithoedd (y CEFR);   

  • gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion, ynghyd â gofynion o ran swm yr addysg Gymraeg a ddarperir (yn cynnwys isafswm), a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau;   

  • cysylltu’r cynllunio ieithyddol a wneir ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel awdurdod lleol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg);   

  • sefydlu corff statudol, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fydd yn gyfrifol am gefnogi pobl o bob oedran i ddysgu Cymraeg.  

Mae’r ddarpariaeth a amlinellir yn y Bil yn anelu at sefyllfa lle bydd pawb sydd yn gadael y sector addysg statudol yn siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol. Rhaid i Medr a’r sector drydyddol gynllunio ar gyfer y cyd-destun hwn.   

Er na fydd y Bil yn dod yn Ddeddf tan ar ôl i Medr gyhoeddi ei gynllun strategol cyntaf, bydd cyngor y Coleg i Medr yn talu sylw i ddarpariaethau’r Bil ac uchelgais y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg ac addysg Gymraeg.   

Cyngor cychwynnol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Medr 

Mae’r Coleg yn croesawu’r dynodiad gan Weinidogion Cymru i ddarparu cyngor i Medr ar ei ddyletswyddau yn unol ag Adran 9 y Ddeddf. Mae’r dynodiad yn gyfrifoldeb ychwanegol i’r Coleg. 

Fel man cychwyn mae’r Coleg yn cyflwyno cyngor cychwynnol trosfwaol sydd yn cwmpasu’r sector addysg drydyddol yn ei chyfanrwydd i Medr yn mis Medi 2024 er mwyn dylanwadu ar gynnwys ei gynllun strategol cyntaf, a gyflwynir i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2024. 

Mae’r cyngor yn tynnu ar y ddeddfwriaeth a’r polisïau sydd wedi eu nodi uchod er mwyn cynghori ar gyfeiriad strategol gwaith Medr mewn perthynas â’r Gymraeg. 

Cyngor cychwynnol y Coleg i Medr, Medi 2024 

Am ragor o wybodaeth am Medr neu dynodiad y Coleg i gynghori Medr, e-bostiwch: polisi@colegcymraeg.ac.uk