Dyfarnu Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg yn cydnabod y gall amrywiaeth eang o anawsterau ac amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr unigol, a all eu rhwystro rhag cyflwyno ffurflen gais am Ysgoloriaeth ar amser. Nid oes modd i’r Coleg ddyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd heb gyflwyno cais neu sy’n cyflwyno cais hwyr, oni bai bod amgylchiadau eithriadol y dylid eu hystyried.
Beth yw amgylchiadau eithriadol?
Amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr/disgybl sydd wedi eu hatal rhag cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau. Gallai hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i);
- Problemau meddygol tymor byr difrifol neu gyflwr iechyd parhaus sydd wedi gwaethygu’n sylweddol (gan gynnwys iechyd meddwl/lles)Marwolaeth perthynas neu ffrind agos
- Damwain
- Problemau personol
- Problemau teuluol, megis ysgariad
- Ymosodiad/trais rhywiol
- Cyfnod o hunan ynysu/cwarantin
- Cyfrifoldebau gofalu ac anawsterau domestig
Nid fydd y canlynol yn cael eu hystyried fel amgylchiadau eithriadol:
- Ddim wedi clywed am y dyddiad cau / wedi camddarllen manylion
- Problemau technegol gyda dyfais bersonol wrth gyflwyno cais
- Digwyddiadau yn gwrthdaro gyda’r dyddiad cau, e.e. gwyliau, priodas, gwasanaeth rheithgor
- Mwy nag un dyddiad cau ar yr un diwrnod
- Rheolaeth amser gwael
- Amgylchiadau meddygol tu allan i'r cyfnod ymgeisio perthnasol
- Wedi trosglwyddo sefydliad / cwrs gradd
Proses Apêl
Rhaid i’r myfyriwr/darpar fyfyriwr gyflwyno cais am apêl o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad cau. Rhaid cyflwyno’r cais yn ysgrifenedig (e-bost/lythyr) i’r Coleg, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth perthnasol o amgylchiadau eithriadol. Bydd y Coleg yn rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw apêl sy’n cael ei gyflwyno gan fyfyrwyr/darpar fyfyrwyr. Cedwir yr hawl i gysylltu â Swyddogion Cangen a’r prifysgolion i wirio manylion.
Bydd y myfyriwr/darpar fyfyriwr yn cael ei hysbysu am ganlyniad yr apêl o fewn 10 diwrnod gwaith. Efallai bydd rhaid ymateb i ymholiadau pellach gan y Coleg o fewn y 10 diwrnod hyn.
Mathau o dystiolaeth
Mae’r rhestr ganlynol yn rhoi syniad i chi o’r mathau o dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu er mwyn cefnogi eich apêl. Dylech ddarparu’r dystiolaeth fwyaf perthnasol i gefnogi’ch apêl.
- Llythyr gan weithiwr iechyd meddygol neu gwnselydd proffesiynol
- Llythyr / tystiolaeth gan weithiwr proffesiynol annibynnol
- Tystysgrif marwolaeth
- Ysgrif goffa / trefn gwasanaeth
- Adroddiad newyddion / cyfryngau
- Adroddiad tyst swyddogol / adroddiad heddlu sy’n rhoi gwybodaeth yn ymwneud gyda throsedd
- Llythyr gan fanc / llythyrau dyled