Swyddi
.
Cyfleoedd Eraill
Mae'r Gwahoddiad i Dendro hwn yn wahoddiad i unigolyn neu gwmni gynnal adolygiad o lywodraethiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg). Pwrpas yr adolygiad fydd gwerthuso strwythurau a gweithdrefnau llywodraethiant presennol y Coleg a chyflwyno argymhellion i’n Bwrdd i’w hystyried, lle bo angen, i wella effeithiolrwydd a chryfhau gallu’r Coleg i gyflawni ei nodau a’i amcanion.
Bydd disgwyl i’r unigolyn / cwmni llwyddiannus gynnal yr adolygiad yn y Gymraeg a darparu cyflwyniad ac adroddiad i’r Bwrdd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Rhaid i’ch cais gadarnhau fod gennych y capasiti i gyflawni’r gofyniad hwn.
Cyflwyno cais :
Dylid cyflwyno cynigion erbyn 16:00 ar 23 Chwefror 2026 i Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol drwy e-bost at d.phillips@colegcymraeg.ac.uk.
Ceir mwy o wybodaeth yn y ddogfen isod.