Nid oes unrhyw swyddi yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Gadeirydd newydd i arwain ei Fwrdd a chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sy’n awyddus i ddefnyddio’u sgiliau a phrofiadau i gyfrannu at waith corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth galon ei weledigaeth a’i bwrpas.
Mae hon yn rôl wirfoddol sy’n cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol y Coleg. Ceir rhagor o wybodaeth yn y pecyn ymgeisio a’r ffurflen gais isod.
Gofynnir i’r sawl sydd â diddordeb ymgeisio i gysylltu gyda Dr Dylan Phillips, Ysgrifennydd y Coleg, (d.phillips@colegcymraeg.ac.uk) erbyn 11 Tachwedd 2026 i drefnu sgwrs ffôn i drafod y rôl ymhellach.
Gellir ymgeisio wrth ddefnyddio'r ffurflen gais isod.
Dyddiad cau: 12:00 ar 20 Tachwedd 2026.