Astudio’r Gymraeg fel Pwnc
Oes gen ti ddiddordeb mewn astudio’r Gymraeg – fel pwnc Lefel A neu yn y brifysgol? Mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig cyngor, yn cynhyrchu adnoddau ac yn trefnu digwyddiadau sy’n ymwneud â’r Gymraeg fel pwnc.
Lefel A Cymraeg
Beth am ddewis Cymraeg fel pwnc Lefel A? Dyma rai rhesymau:
-
Sgiliau dwyieithog cryf
-
Cyfle i fod yn greadigol ac i astudio amrywiaeth eang o destunau
-
Dysgu am hanes a diwylliant Cymru a’r Gymraeg
-
Agor drysau o ran gyrfa
-
Datblygu sgiliau ysgrifennu, dadansoddi a chyfathrebu
-
Cydbwysedd da rhwng gwaith cwrs ac arholiadau
Pam astudio Lefel A Cymraeg?
Garmon yn holi...
Eisiau gwybod mwy am ddewis astudio Lefel A Cymraeg a'r cyfleoedd sy’n deillio o hynny?
Garmon ab Ion sydd wedi bod yn cyfarfod dwy sy’n brysur yn gwneud enw i’w hunain yn y byd darlledu radio, sef Mirain Iwerydd Radio Cymru, a Sian Eleri Radio 1, a dau wyneb cyfarwydd ym myd y bêl, sef y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Rhys Patchell, a Sioned Dafydd, gohebydd chwaraeon S4C.
Dewch i ddysgu mwy am ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd a gwaith a sut mae astudio Lefel A Cymraeg - a gradd yng nghyd-destun Mirain a Sioned - yn plethu mewn i ddysgu mwy am ein hanes a'n hunaniaeth fel Cymry.
Astudio’r Gymraeg yn y Brifysgol
Gelli di astudio’r Gymraeg mewn pedair prifysgol yng Nghymru:
Mae nifer eang o gynlluniau graddau sengl a chyfun – iaith gyntaf ac ail iaith – ar gael, sy’n cynnwys amrywiaeth o fodiwlau gwahanol i siwtio pawb.
Sut beth yw astudio Cymraeg yn y brifysgol?
Mae myfyrwyr o Fangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd yn rhannu eu profiadau yn y gweminar canlynol:
Gwybodaeth i athrawon
Ydych chi'n athro neu'n athrawes Gymraeg?
Gallwch lawrlwytho'r holl adnoddau sy'n gysylltiedig ag ymgyrch Llywodraeth Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Hyrwyddo Lefel A Cymraeg - Dewisa Lefel A Cymraeg - yn fan hyn.
Mae'r adnoddau yn cynnwys deunydd gweledol, fideos, posteri, asedau cyfryngau cymdeithasol a phecyn cymorth athrawon.