Skip to main content Skip to footer

Y Gymraeg fel Pwnc

Astudio’r Gymraeg fel Pwnc

Oes gen ti ddiddordeb mewn astudio’r Gymraeg – fel pwnc Lefel A neu yn y brifysgol? Mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig cyngor, yn cynhyrchu adnoddau ac yn trefnu digwyddiadau sy’n ymwneud â’r Gymraeg fel pwnc.

Lefel A Cymraeg

Beth am ddewis Cymraeg fel pwnc Lefel A? Dyma rai rhesymau:

  • Sgiliau dwyieithog cryf

  • Cyfle i fod yn greadigol ac i astudio amrywiaeth eang o destunau

  • Dysgu am hanes a diwylliant Cymru a’r Gymraeg

  • Agor drysau o ran gyrfa

  • Datblygu sgiliau ysgrifennu, dadansoddi a chyfathrebu

  • Cydbwysedd da rhwng gwaith cwrs ac arholiadau

Llun hir Pam Dewis Lefel A Dwyieithog

Pam astudio Lefel A Cymraeg?

Dyma beth mae cyn-fyfyrwyr wedi ei ddweud am astudio Lefel A Cymraeg:

Miriam Isaac
Actores, cyflwynwraig a cherddor

“Wnes i fwynhau’r cwrs gymaint, o’r chwedlau a’r straeon i’r farddoniaeth. Cefais fy synnu pa mor greadigol oedd y cyfan.”

Amber Thomas
Cyn-fyfyrwraig Cymraeg Lefel A (Ail Iaith) yng Ngholeg Sir Gâr

“Trwy astudio’r Gymraeg, bydd modd i ti fwynhau diwylliant newydd gan gynnwys llenyddiaeth, barddoniaeth a cherddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Trystan ap Owen
Actor a chyflwynydd

“Mae Lefel A Cymraeg yn gallu dy helpu ar dy daith yrfaol waeth pa lwybr y byddi di’n ei ddilyn yn y pen draw!”

Garmon yn holi...

Eisiau gwybod mwy am ddewis astudio Lefel A Cymraeg a'r cyfleoedd sy’n deillio o hynny?

Garmon ab Ion sydd wedi bod yn cyfarfod dwy sy’n brysur yn gwneud enw i’w hunain yn y byd darlledu radio, sef Mirain Iwerydd Radio Cymru, a Sian Eleri Radio 1, a dau wyneb cyfarwydd ym myd y bêl, sef y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Rhys Patchell, a Sioned Dafydd, gohebydd chwaraeon S4C.

Dewch i ddysgu mwy am ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd a gwaith a sut mae astudio Lefel A Cymraeg - a gradd yng nghyd-destun Mirain a Sioned - yn plethu mewn i ddysgu mwy am ein hanes a'n hunaniaeth fel Cymry.

Pa adnoddau sydd ar gael i helpu gyda’r cwrs Lefel A Cymraeg?

Astudio’r Gymraeg yn y Brifysgol

Gelli di astudio’r Gymraeg mewn pedair prifysgol yng Nghymru:

Mae nifer eang o gynlluniau graddau sengl a chyfun – iaith gyntaf ac ail iaith – ar gael, sy’n cynnwys amrywiaeth o fodiwlau gwahanol i siwtio pawb.

Sut beth yw astudio Cymraeg yn y brifysgol?

Mae myfyrwyr o Fangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd yn rhannu eu profiadau yn y gweminar canlynol:

Dyma beth sydd gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr i’w ddweud am astudio'r Gymraeg yn y brifysgol: 

Kayley Sydenham
Cymraeg ail flwyddyn, Prifysgol Bangor

“Dyw e ddim jysd yn llenyddiaeth neu ramadeg; ma ‘na lot mwy i’r Gymraeg na hynny.”

Emily Evans
BA Cymraeg, Prifysgol Abertawe

“Un o fy hoff bethau am astudio Cymraeg yn y brifysgol yw pa mor glòs yw’r gymuned Gymraeg, sy'n eich helpu i wneud ffrindiau oes sy’n rhannu’r un diddordebau a brwdfrydedd.”

Aled Pritchard
BA Cymraeg a Newyddiaduraeth, Prifysgol Bangor

“Y peth gorau am astudio’r Gymraeg yn fy marn i oedd gallu dysgu am Gymru. Nid yn unig hanes Cymru, ond hanes yr iaith hefyd. Roedd y cwrs yn un cyffrous a diddorol ac roedd ‘na dipyn o ryddid o ran y pynciau neu’r testunau yr oedd modd eu dewis.”

Pa adnoddau sydd ar gael i helpu gydag astudio’r Gymraeg yn y brifysgol?

Gwybodaeth i athrawon

Ydych chi'n athro neu'n athrawes Gymraeg?

Gallwch lawrlwytho'r holl adnoddau sy'n gysylltiedig ag ymgyrch Llywodraeth Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Hyrwyddo Lefel A Cymraeg - Dewisa Lefel A Cymraeg - yn fan hyn.

Mae'r adnoddau yn cynnwys deunydd gweledol, fideos, posteri, asedau cyfryngau cymdeithasol a phecyn cymorth athrawon.

Wyt ti’n ein dilyn ni?