Gwybodaeth am y prawf:
Bydd arholiad ysgrifenedig y Dystysgrif yn cael ei gynnal ar gyfrifiadur yn ystod wythnos gyntaf mis Mai, ar gampws Prifysgol. Bydd tair tasg i’w cwblhau yn yr arholiad ysgrifenedig. Hyd yr arholiad fydd awr a hanner. Ceir enghreifftiau o hen bapurau arholiad ar wefan y Coleg. Gwerth yr arholiad yw 50% o'r marc terfynol.
Bydd darn tua 150 o eiriau ar y papur, yn cynnwys tua 22 o wallau gramadegol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gywiro’r gwallau a nodi’r cywiriadau mewn print trwm.
- Nid yw tynnu sylw at y gwallau’n ddigon.
- Ni roddir unrhyw farciau os na fydd y gwallau wedi eu cywiro.
- Nid oes angen esbonio’r rhesymau dros gywiro.
- Ni ddylid aralleirio na newid arddull y darn.
- Bydd Cysill yn canfod rhai o'r gwallau yn unig.
- Gofalus – bydd Cysill yn camgywiro rhai pethau!
Meini Prawf Tasg 1
Bydd Cysill yn adnabod 4 gwall, a rhoddir ½ marc yr un am gywiro’r gwallau hyn. Rhoddir 1 marc yr un am gywiro’r 18 gwall ychwanegol (cyfanswm posibl, 20 marc): (20% o farciau'r papur).
Bydd angen addasu testun ysgrifenedig Saesneg i'r Gymraeg at ddiben penodol. Mae trawsieithu’n wahanol iawn i gyfieithu oherwydd bod angen crynhoi’r wybodaeth yn y darn yn ogystal â throsi’r wybodaeth i iaith arall. Bydd angen adnabod a chynnwys prif bwyntiau allweddol y darn. Dylai’r trawsieithiad fod tua thraean/chwarter hyd y gwreiddiol. Rhaid cynnwys prif neges y darn a’r is-bwyntiau pwysicaf.
Meini Prawf Tasg 2
Bydd yr arholwyr yn ystyried yr elfennau canlynol wrth farcio'r dasg: (40% o farciau'r papur):
cywirdeb iaith:
- ystod cystrawen a geirfa
- addasrwydd y testun
- cynnwys y pwyntiau allweddol.
Bydd gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu testun mewn ymateb i sbardun penodol (tua 300 o eiriau). Mae’n bosibl y bydd y cwestiwn yn gofyn i ymgeiswyr ystyried eu profiadau ym myd addysg/gwaith.
- Nid ysgrifennu stori neu ddarn creadigol yw’r dasg hon.
- Dylid ymdrin â phob agwedd ar y cwestiwn.
- Bydd cywirdeb a hyd y darn yn cael eu hystyried wrth farcio.
Meini Prawf Tasg 3
Bydd yr arholwyr yn ystyried yr elfennau canlynol wrth farcio'r dasg: (40% o farciau'r papur):
- cywirdeb iaith
- ystod cystrawen a geirfa
- cynnwys a threfn
- ateb gofynion y dasg.
Paratoi at y Prawf Ysgrifennu
Isod mae'r Tiwtoriaid Sgiliau Iaith yn cynnig cyngor call ar sut mae gwneud y dair tasg yn y prawf ysgrifennu.
Bwriad y ddogfen hon yw rhoi canllaw i ddarpar ymgeiswyr a fydd yn sefyll y prawf Ysgrifennu. Mae’n cynnwys enghreifftiau da o waith ymgeiswyr y gorffennol, tasgau trafod, sylwadau a chynghorion.
Mae rhai adnoddau cefnogol pellach allai fod o ddefnydd i ti wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau ar gael ar y Porth Adnoddau:
- Llyfryn a fideos cyffredinol gloywi iaith
- Cyn bapurau prawf
- Enghreifftiau o asesiadau llafar da
- Defnyddio offer cyfrifiadurol
Llywio gywbodaeth am y Dysgtygrif Sgiliau Iaith