YMAELODI FEL MYFYRIWR
Wyt ti eisiau clywed mwy amdanon ni a’r pethe ry’n ni’n eu gwneud?
Os wyt ti yn yr ysgol, coleg neu brifysgol, llenwa’r ffurflen isod i ymuno â’r Coleg Cymraeg. Fel aelod, cei wybodaeth am gyfleoedd cyffrous a allai fod o ddiddordeb i ti – o gyrsiau a digwyddiadau i gymorth gyda dy astudiaethau trwy’r Gymraeg.
YMAELODI FEL STAFF
Ffurflen ymaelodi fel staff
Rydym wrthi'n gwneud newidiadau i'r broses gofrestru ac felly nid yw'r ffurflenni staff ar gael ar hyn o bryd. Yn ystod y cyfnod hwn, os hoffech gael eich ychwanegu at ein cronfa ddata, anfonwch e-bost atom i gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk a byddwn yn gallu anfon dolen uniongyrchol at ffurflen atoch.
Datganiad Rhannu Data:
Er mwyn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol allu gweithredu ei phrosesau'n effeithiol, bydd angen ar adegau rhannu data am aelodau gyda'r sefydliadau unigol - ac yn achos myfyrywr, gyda'r undebau myfyrwyr. Gellir darllen copi o Rybudd Preifatrwydd y Coleg ar gyfer aelodau ar dudalen Data y wefan hon.
DEWCH YN AELOD O'R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
Mae system aelodaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn caniatáu i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith y Coleg ddod yn aelod o gymuned y Coleg.
Trwy ymaelodi â'r Coleg bydd aelodau yn derbyn gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau'r Coleg, ynghyd â manylion am gyfleoedd a fydd yn codi o gynlluniau'r Coleg.
Datganiad Rhannu Data:
Er mwyn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol allu gweithredu ei phrosesau'n effeithiol, bydd angen ar adegau rhannu data am aelodau gyda'r sefydliadau unigol - ac yn achos myfyrywr, gyda'r undebau myfyrwyr. Gellir darllen copi o Rybudd Preifatrwydd y Coleg ar gyfer aelodau ar dudalen Data y wefan hon.
Er mwyn ymaelodi gyda'r Coleg, dewiswch yr opsiwn sy'n cyfateb i chi o'r dewisiadau isod: