Bu Ymddiriedolaeth William Salesbury yn cydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2011 i roi nifer o ysgoloriaethau a gwobrau i fyfyrwyr a dysgwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 2011 o dan arweiniad y diweddar Dr Meredydd Evans.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhoi arian i 2 wobr ar hyn o bryd. Ceir mwy o fanylion am y gwobrau a sut i ymgeisio amdanynt isod.