Dysgu’r Dyfodol: Cynllun Mentora a Phrofiad Gwaith i fyfyrwyr prifysgol
Wyt ti am rannu dy arbenigedd a dy brofiadau fel athro?
Rydyn ni’n chwilio am bobl fel ti i fod yn fentoriaid i fyfyrwyr prifysgol mewn meysydd pwnc amrywiol sydd eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro yng Nghymru.
Bydd angen i ti:
- Fod wedi cwblhau dy Gyfnod Sefydlu
- Wneud 2 awr o hyfforddiant ar-lein (gyda thal o £30 yr awr*)
- Gynnig 3 sesiwn mentora, awr yr un yn ystod tymor yr haf, ar-lein (gyda thal o £30 yr awr*)
- Wneud hyd at awr o waith trefnu ac adborth (gyda thal o £30 yr awr*)
Bydd y sesiynau mentora yn gyfle i’r myfyrwyr ddod i ddeall mwy am sut i hyfforddi i fod yn athro, y profiad o fod yn athro yng Nghymru, a’r hyn sydd ar gael i athrawon gyrfa gynnar. Y bwriad yw ysbrydoli myfyrwyr i gymryd y cam tuag at yrfa ym myd addysg Cymru.
*Bydd y taliadau’n cyfrannu at eich incwm trethadwy am y flwyddyn.
Y manteision
Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn dy helpu di i:
- Ddangos datblygiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol i athrawon
- Datblygu dy sgiliau arweinyddiaeth
- Dangos dy fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb ychwanegol e.e tâl CAD/TLR
- Ennill £180
Cofrestra ar gyfer Dysgu'r Dyfodol 24/25 yma: Ffurflen Cofrestru Dysgu'r Dyfodol
Os wyt ti eisiau gofyn unrhyw gwestiynau, cysyllta gyda Hannah Davies ar h.davies@colegcymraeg.ac.uk