Skip to main content Skip to footer

Dysgu'r Dyfodol

Dysgu’r Dyfodol: Cynllun Mentora a Phrofiad Gwaith i fyfyrwyr prifysgol

 

Wyt ti am rannu dy arbenigedd a dy brofiadau fel athro?

Rydyn ni’n chwilio am bobl fel ti i fod yn fentoriaid i fyfyrwyr prifysgol mewn meysydd pwnc amrywiol sydd eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro yng Nghymru.

Bydd angen i ti:

  • Fod wedi cwblhau dy Gyfnod Sefydlu
  • Wneud 2 awr o hyfforddiant ar-lein (gyda thal o £30 yr awr*)
  • Gynnig 3 sesiwn mentora, awr yr un yn ystod tymor yr haf, ar-lein (gyda thal o £30 yr awr*)
  • Wneud hyd at awr o waith trefnu ac adborth (gyda thal o £30 yr awr*)

Bydd y sesiynau mentora yn gyfle i’r myfyrwyr ddod i ddeall mwy am sut i hyfforddi i fod yn athro, y profiad o fod yn athro yng Nghymru, a’r hyn sydd ar gael i athrawon gyrfa gynnar. Y bwriad yw ysbrydoli myfyrwyr i gymryd y cam tuag at yrfa ym myd addysg Cymru.

*Bydd y taliadau’n cyfrannu at eich incwm trethadwy am y flwyddyn.

 

Y manteision

Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn dy helpu di i:

  • Ddangos datblygiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol i athrawon
  • Datblygu dy sgiliau arweinyddiaeth
  • Dangos dy fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb ychwanegol e.e tâl CAD/TLR
  • Ennill £180

 

Dyddaid cau i ymgeisio: 2 Chwefror 2024

Os wyt ti eisiau gofyn unrhyw gwestiynau, cysyllta gyda Hannah Davies ar h.davies@colegcymraeg.ac.uk