Dyma fap o Gymru sy'n dangos y colegau addysg bellach a’r darparwyr prentisiaethau ar draws y wlad. Chwiliwch am y coleg neu’r darparwr prentisiaeth sydd agosaf atoch chi i gael mwy o wybodaeth am y ddarpariaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Pwysigrwydd y Gymraeg i Gyflogwyr
Gall y Gymraeg ychwanegu gwerth i'ch busnes chi.
Wrth gyflogi prentis, byddwch yn recriwtio talent newydd, a rhywun sy'n awyddus i ddysgu, gan lenwi bylchau sgiliau mewn ffordd gosteffeithiol. Bydd hyn hefyd yn galluogi dysgwyr, o bob oed, i wella eu sgiliau.
Os byddwch chi’n cyflogi prentis sy’n siarad Cymraeg, byddwch yn ychwanegu sgìl arall i'ch gweithlu ac yn ateb y galw cynyddol gan gwsmeriaid am wasanaethau dwyieithog.
Os oes angen help arnoch chi i gyflwyno’r Gymraeg fel rhan o’ch busnes, cysylltwch â'r sefydliadau a ganlyn:
2019 / 2020
-
Newyddlen AB Mehefin 2020
-
Newyddlen AB Ionawr 2020
-
Newyddlen AB Medi 2019
-
Newyddlen AB Mai 2019
A fyddech chi’n hoffi derbyn y newyddion diweddaraf am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? Llenwch y ffurflen syml hon
Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi’n ein dilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol? Eisiau clywed mwy am waith y Coleg Cymraeg a beth y mae’n gallu ei gynnig i chi? Dewch i ymuno ‘da ni!