Skip to main content Skip to footer
19 Hydref 2026

Blog Beca: Cwrs Therapi Galwedigaethol

ADD ALT HERE

Dwi’n annog unrhyw un sy’n ystyried helpu unigolion a gwneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd fel gyrfa i astudio Therapi Galwedigaethol.

Beca dwi, mi ydw i ar fin dechrau blwyddyn olaf fy nghwrs meistr mewn Therapi Galwediagethol cyn-cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn y cwrs meistr wnes i dderbyn gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol o Brifysgol Bangor.

Mae’r rhaglen cyn-cofrestru wedi ei gynllunio ar gyfer graddedigion sydd â gradd mewn unrhyw bwnc. Mae’n darparu llwybr carlam dwy flynedd i unigolion allu cymhwyso i fod yn therapydd galwediagethol. Mae’r cynllun y ddwy flynedd yn cynnwys 7 modiwl yn ogystal â thri lleoliad profiad gwaith.

Mae therapi galweidgaethol yn helpu unigolion o bob oedran i fyw eu bywyd gorau yn annibynnol o fewn eu cartref, gweithle ac unrhyw le arall.

Tra’n meddwl am drywydd gyrfa yn yr ysgol, mae’n debygol nad yw therapi galwedigaethol ar y radar ac yn aml nid yw unigolion yn ymwybodol am y swydd, tan maent yn dod ar eu traws. Mae lleoliadau gwaith therapyddion galwedigaethol yn amrywio o ysgolion, ysbytai, y gymuned a mwy.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf cefais y cyfle i fynd ar ddau leoliad gwaith sydd wedi fy siapio a gwneud i mi sylweddoli ar yr effaith gadarnhaol y mae’r rôl yn cael ar fywydau unigolion. Bum ar gyfnod o wyth wythnos mewn ward Trawma ac Orthopaedeg, roedd cael y profiad o weithio mewn ysbyty yn brofiad newydd i mi a wnes i fwynhau.

Cefais y cyfle i ddeall sut mae tîm amlddisgyblaethol yn cydweithio i sichrau bod cleifion yn dychwelyd i’w cartrefi yn ddiogel. Un o brif amcanion y swydd yw cefnogi cleifion i gyrraedd eu nod. Wnes i ddysgu elfennau sylfaenol corfforol y swydd, megis y meini prawf i sicrhau dychweliad diogel cleifion i’r cartref gan sicrhau addasrwydd offer ac atgyfeiriadau i wasnaethau pellach i gefnogi’r claf.

Yn ystod fy ail gyfnod o brofiad gwaith bu i mi wario 10 wythnos mewn ward adfer iechyd meddwl oedolion. Cyn mynychu’r lleoliad yma roeddwn yn bryderus gan nad oedd iechyd meddwl yn faes cyfarwydd i mi. Roeddwn yn cefnogi oedolion rhwng 18-65 oed oedd wedi derbyn diagnosis o gyflyrau anhwylderau meddyliol.

Fe wnes i ddod i adnabod y cleifion, i’w cefnogi i ddychwelyd i’r gymuned, ac arsylwi’r heriau yr oeddent yn eu wynebu. Roeddwn yn cefnogi unigolion i ail-adeiladu hunan-allu, datblygu trefn dyddiol ystyrlon, ac adennill sgiliau sy’n cyfrannu at eu hannibyniaeth megis coginio. Trwy weithio’n agos gyda’r tîm amlddisgyblaethol, roedd yn bosibl nodi’r heriau unigol a chyd-greu strategaethau ymarferol a phersonol i helpu cleifion symud ymlaen tuag at eu nodau adferiad.

Mae’r maes yn cynnig cyfleoedd i unrhyw un sy’n mwynhau gweithio gyda phobl ac sydd eisiau gweld effaith eu gwaith yn uniongyrchol. Mae’n broffesiwn sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i unigolion. Os wyt yn chwilio am yrfa sy’n rhoi pwrpas, amrywiaeth a’r cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn, mae therapi galwedigaethol yn opsiwn i ti ystyried.