Helo! Rachel dw i, ac rydw i newydd gwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn astudio Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Bangor. Dros y flwyddyn rydw i wedi cael cyfle i ddysgu am amrywiaeth eang o bynciau sy'n ymwneud ag addysg a datblygiad plant. Mae'r cwrs yn cynnwys llawer mwy na darlithoedd yn unig, gyda siaradwyr gwadd, gweithdai ac amrywiaeth o brofiadau sy'n helpu i ddatblygu hyder a sgiliau proffesiynol. Un o'r pethau gorau am fy mlwyddyn gyntaf oedd cael dod i adnabod myfyrwyr eraill a bod yn rhan o'r gymuned Gymraeg gyfeillgar ym Mangor.
Un o fy uchafbwyntiau oedd fy lleoliad ysgol am saith wythnos mewn ysgol tua 40 munud o Fangor. Roedd cael gweithio gyda'r plant, addysgu dosbarthiadau cyfan a grwpiau bach, ac adeiladu perthnasoedd gyda nhw yn brofiad arbennig iawn. Roedd y plant mor groesawgar ac roedd gweld eu cynnydd yn werth chweil. Cefais hefyd gyfle i arsylwi plant o wahanol oedrannau a gweld y gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn ysgol, gan gynnwys y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod. Yn ogystal, cawsom wythnos o leoliad amgen lle roedd modd dewis ble i fynd, a dewisais fynd adref i gael profiad gwahanol.
Yn ystod y flwyddyn fe wnes i gymryd rhan mewn wythnos Gymraeg ddwys, wythnos cyflogadwyedd a diwrnodau ysgol arweiniol wythnosol, a oedd yn gyfle gwych i ddatblygu fy sgiliau. Rydyn ni hefyd yn cael cyfleoedd i gymysgu gyda myfyrwyr ar y cwrs Saesneg, sy'n helpu i ehangu ein profiadau a gwneud ffrindiau newydd. Mae astudio drwy'r Gymraeg wedi bod yn bwysig iawn i mi, ac mae wedi rhoi'r hyder i mi ddefnyddio'r iaith mewn amgylchedd broffesiynol. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried y cwrs yw manteisio ar bob cyfle sydd ar gael - mae pob profiad yn eich helpu i ddatblygu fel athro neu athrawes.