Henffych! Shwmae fy enw i yw Rhodri a dwi yn mynd i fy mlwyddyn olaf yn astudio daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dwi bellach wedi cael fy mhenodi yn gapten ar dîm hanesyddol pêl-droed y Geltaidd ac yn aelod o Aelwyd Pantycelyn.
Dros yr haf dwi wedi cael llu o gyfleodd gwahanol i weithio gyda chwmnïau gwahanol o’r chwarel i’r BBC. Fy ngwaith tymhorol dros yr haf ydy gweithio yn chwarel Trefigin yn palu am dywod a graen. Er yn ystod adeg yr Eisteddfod cefais y cyfle i weithio ar raglenni’r Eisteddfod gyda’r BBC. Trwy hap a damwain mewn ffordd cefais y cyfle ar ôl ennill ar raglen Am Dro a gwneud cysylltiadau o fewn y byd teledu.

Mae’r BBC yn darlledu dros 180 awr o gynnwys dros wythnos yr Eisteddfod a dyma ddarllediad sengl fwyaf y BBC yn y Deyrnas Unedig. Swydd fel rhedwr cefais am yr wythnos gan helpu a rhoi cymorth i hwyluso ffilmio at y rhaglenni.
Yn fy rôl fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg dwi hefyd wedi cael y cyfle dros yr haf i siarad mewn ymweliadau ysgolion gyda’r chweched dosbarth. Gan gynnwys yn fy hen ysgol lawr yn Bro Preseli. Fe wnes i fwynhau rhannu fy mhrofiadau o fod yn y brifysgol yn Aber gyda nhw, a roedd hi’n braf gallu ymweld â fy hen ysgol.

Rwy’n astudio Daearyddiaeth ac mae cael fy addysgu trwy’r Gymraeg wedi helpu mi i ffeindio swyddi a gwneud cysylltiadau yma yng Nghymru. Mae’r sgil o siarad ac addysgu yn ddwy-ieithog wedi agor drysau na fyddai yn bosib mewn un iaith yn unig.