Penderfynais ddewis y modiwl ychwanegol, Eich Gyrfa a'r Gymraeg o fewn Prifysgol De Cymru am nifer o resymau. Roeddwn eisiau cydweithio gyda phobl newydd, datblygu fy hyder bersonol, a parhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl astudio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg drwy gydol fy addysg.
Er mai modiwl byr oedd hwn, roedd yn brofiad gwerthfawr iawn. Roedd yn cynnwys cyflwyniad ar sgiliau personol a dadansoddiad SWOT, yn ogystal â sesiynau rheolaidd ar-lein neu wyneb yn wyneb bob ychydig wythnosau. Roedd y sesiynau hyn yn gyfle gwych i ymarfer defnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun gwahanol ac i feithrin hyder wrth gyfathrebu. Drwy'r elfen fyfyriol, cefais gyfle i edrych ar yrfaoedd sy'n defnyddio'r Gymraeg a gweld sut y gall fy sgiliau a'm profiadau fy helpu yn y dyfodol.
Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr i mi oedd y cyfleoedd a ddaeth yn sgìl y modiwl. Mae fy hyder wedi tyfu'n sylweddol, ac mae hynny wedi arwain at gael y cyfle i gynrychioli'r Coleg Cymraeg fel llysgennad yn y brifysgol eleni. Yn ogystal, derbyniais fwrsariaeth o £250 am gwblhau'r modiwl, a oedd yn fonws gwych.
Mae'r profiad hefyd wedi rhoi mwy o falchder i mi yn fy iaith a'm diwylliant. Wrth astudio gyda myfyrwyr o bob cwr o'r byd, rwyf wedi sylwi faint o ddiddordeb sydd gan bobl yn ein hiaith a'n gwlad. Mae hynny wedi fy annog i werthfawrogi'r Gymraeg hyd yn oed yn fwy. Rwyf hefyd wedi dechrau rhoi mwy o sylw i'r pethau bach sy'n gwneud Cymru yn unigryw. Mae hynny'n cynnwys mynychu gemau pêl-droed a rygbi, lle mae'r iaith, y gymuned a'r ymdeimlad o falchder cenedlaethol yn dod at ei gilydd i greu diwylliant cryf.
Fy neges i fyfyrwyr eraill fyddai peidio ag oedi cyn dewis modiwlau Cymraeg neu astudio rhan o'ch cwrs drwy'r Gymraeg. Efallai y byddwch yn synnu faint o gyfleoedd, profiadau a hyder y gallwch eu hennill o'r cam bach hwnnw.