Skip to main content Skip to footer
6 Medi 2023

Llais y Maes, Llysgenhadon o Brifysgol Caerdydd

ADD ALT HERE
Criw Llais y Maes 2023

Elin Angharad Huws:

Elin Angharad ‘dwi, yn wreiddiol o Ynys Môn, a nawr yn mynd mewn i fy nhrydedd flwyddyn yng Nghaerdydd ym mis Medi. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ‘lenni, cefais i’r cyfle i fod yn rhan o dîm ‘Llais y Maes’ gyda Phrifysgol Caerdydd.

Roedd y profiadau a wnes i ennill yn rhai defnyddiol iawn ar gyfer y dyfodol, megis y gallu i orfod meddwl ar fy nhraed, gweithio fel tîm, yr hyder i fynd fyny at bobl doeddwn i ddim yn ‘nabod a’u cyfweld nhw, recordio a golygu fideos, ac yn y blaen.

Mi wnes i hefyd cael cyfle i ddod i ‘nabod pobl newydd a chreu ffrindiau newydd o fewn y tîm!! Profiad a wnaeth sefyll allan i mi oedd pan wnes i gyfweld â Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru; cyfle bythgofiadwy, y byswn i byth wedi cael oni bai fy mod wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn!

Roedd y profiad fel rhyw fewnwelediad i sut mae’r byd gwaith ‘go iawn’ yn gweithio, a dwi’n gwybod ei fod yn rhywbeth mi wnâi drysori.

Elin yn cyfweld gyda Rhun ap Iorwerth

Millie Stacey:

Fy enw i yw Millie Stacey a dwi’n mynd i fy nhrydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Newyddiaduraeth a Cyfathrebu.

Braint oedd cael fy newis i fod yn rhan o dîm llais y maes yn Eisteddfod Genedlaethol 2023. Fel merch o Dde Cymru, roedd hi’n daith a hanner cyrraedd lan ond werth pob eiliad am y cyfle.

Rhoddodd y profiad gipolwg go iawn i mi ar sut mae diwrnod newyddiadurwr yn mynd, dysgodd fi i fod yn greadigol os nad yw straeon yn troi allan fel y bwriadwyd a dysgodd i mi sut mae cymaint o straeon yn dod dim ond o gael sgwrs syml gyda rhywun yn y ciw am goffi!

Rhywbeth rwy'n hynod ddiolchgar amdano yw cael y cyfle i ddysgu yn y swydd a dysgu oddi wrth y bobl yn y diwydiant ei hun. Yn ystod yr wythnos cawsom weithio gyda rhai o'r goreuon, derbyn eu cyngor a chael mewnwelediad gwerthfawr i ein gyrfaoedd yn y dyfodol.

Millie a'r criw yn paratoi cynnwys

Catrin Edith Parry:

Haia, Catrin ‘dwi, un o lysgenhadon y Coleg Cymraeg, cefais y cyfle i weithio fel rhan o dîm Llais y Maes gyda Prifysgol Caerdydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a roedd yn brofiad bythgofiadwy!

Am 5 diwrnod, mi gaethon ni’r cyfle i ohebu, golygu a chynllunio sawl eitem gwahanol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, profiad arbennig iawn i newyddiadurwyr ar gychwyn eu taith gyrfa.

Gan hefyd gael y cyfle i gydweithio gyda Andrew Weeks, Sian Morgan Lloyd a Gwenfair Griffith, tri sydd wedi, ac yn dal i wneud gwaith arbennig iawn i newyddiaduraeth yng Nghymru.

Cefais y cyfle i gyfweld â Marian Edwards, unigolyn sydd yn rhan enfawr o baratoi gwisgoedd yr orsedd bob blwyddyn, hefyd y cyfle i gael sgwrs gyda Dylan Ebenezer am bêl-droed, a'r tymor i ddod! Yn sicr rydwi'n hynod ddiolchgar am y profiad yma!

Catrin yn cyfweld a Dylan Ebenezer