Skip to main content Skip to footer
25 Medi 2026

Tips Prifysgol: Blog Gwenllian

ADD ALT HERE

Rheoli a Threfnu Amser

Mae hi’n bwysig rhoi amser i gwblhau gwaith, yn ogystal ag unrhyw waith arall sydd gen ti i’w wneud tu allan i’r cwrs. Bydd amserlen yn galluogi ti i drefnu’r amser yma, ac yn golygu y gelli di fwynhau cymdeithasu heb orfod poeni gormod am dy lwyth gwaith!

Rheoli Arian

Cofia wario’n gall! Yn y brifysgol, mae gwario arian heb sylwi yn digwydd yn hawdd. Rho derfyn ar faint rwyt ti’n ei wario’n wythnosol, neu bydda mor effeithlon â phosib drwy rannu dy arian yn adrannau gwahanol, e.e. bwyd, cymdeithasu, rhent ayyb. Er hyn, paid â rhoi gormod o bwysau ariannol arnat ti dy hun – mwynhau ydy’r peth pwysicaf.

Lles Meddyliol

Mae mynd i’r brifysgol yn newid mawr, ac yn gallu bod yn eithaf anodd ar y dechrau. Sicrha dy fod yn cysgu ac yn bwyta’n iawn, ac os ydy pethau’n teimlo’n ormod, mae gan bob prifysgol gymorth ar gael i ti. Cymer bopeth un diwrnod ar y tro.

Cymdeithasu

Ymuna â chymaint o grwpiau cymdeithasol ag y gelli di! Mae digonedd ohonynt ar gael, ac mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Cymer bob cyfle, a gwna’r mwyaf o’r pethau sydd o dy amgylch. Mae bywyd cymdeithasol yr un mor bwysig â’r profiad addysgol, ac mae pawb yn yr un cwch, felly bydda’n glên, mwynha a bydda’n ti dy hun!

Chwaraeon

Os oes gen ti unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn unrhyw gamp – ymuna â’r tîm! Mae ymuno â thîm chwaraeon yn un o’r ffyrdd gorau o ddod i adnabod eraill, a datblygu sgiliau a ffitrwydd. Os nad wyt ti’n chwarae camp, neu heb gael llawer o ddiddordeb mewn chwaraeon yn y gorffennol, mae’r brifysgol yn ffordd grêt i ddechrau. Mae cymaint o fyfyrwyr yn dechrau campau gwbl newydd yn ystod eu hastudiaethau – felly pam ddim rhoi cynnig arni?

Llwyth Gwaith

Bydd y math o waith a’r technegau addysgu yn wahanol iawn i fod yn yr ysgol neu’r coleg. Mae angen cymryd cyfrifoldeb a bod yn annibynnol, felly cofia gymryd nodiadau a gofyn os nad ydy rhywbeth yn gwneud synnwyr. Cymer fantais o’r adnoddau sydd gan dy brifysgol a’r Coleg Cymraeg i’w cynnig – a cofia gymryd digon o seibiant wrth weithio!