Asgwrn Cefn y Gymraeg: Addysg Drydyddol a’r Gweithlu Amaeth Cymraeg
Ymunwch â ni ar gyfer sgwrs banel i drafod rôl addysg drydyddol wrth ddatblygu gweithlu amaethyddol dwyieithog a medrus ar gyfer y dyfodol.
Eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn nodi 15 mlynedd ers ei sefydlu, a Phrifysgol Aberystwyth yn dathlu 20 mlynedd o addysgu Amaethyddiaeth yn Gymraeg. Nododd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg bod 43.1% o weithlu’r sector amaeth, coedwigaeth a physgota yn siarad Cymraeg, ac felly mae’r digwyddiad yn gyfle i drafod rôl addysg drydyddol wrth ddatblygu gweithlu dwyieithog medrus ar gyfer y sector.
Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan y cyflwynydd a’r gomediwraig Mel Owen. Bydd panel o arbenigwyr yn cyfrannu at y sgwrs a gweinir lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y drafodaeth
Dyddiad: 21 Gorffennaf 2026
Lleoliad: Pafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth (llawr cyntaf, 584-G) ar faes Sioe Amaethyddol Cymru
Amser: 14:30
Noder: Mae’r digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig. Nid yw’r gwahoddiad hwn yn docyn mynediad i’r Sioe
Cofrestra drwy gwblhau'r ffurflen isod:
Hygyrchedd
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y llawr cyntaf, ac yn anffodus nid oes lifft ar gael i gyrraedd y lleoliad. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni ymlaen llaw drwy e-bostio gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk er mwyn trafod trefniadau addas.
Diogelu Data
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir drwy’r ffurflen gofrestru yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu’r digwyddiad yn unig, a bydd yn cael ei dileu yn dilyn y digwyddiad.