Skip to main content Skip to footer
Canllaw diffinio darpariaeth

Cyflwyniad i Ganllaw Diffinio Darpariaeth y Coleg

Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2026
Canllaw diffinio darpariaeth

Gweithdy Datblygu Staff: Canllaw Diffinio Darpariaeth Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog

Dyddiad: 11 Tachwedd 2026
Amser: 14:00
Lleoliad: Ar-lein
Cyfrwng: Cymraeg  
Cynulleidfa: Darparwyr Addysg Uwch 

Cyhoeddodd y Coleg Cymraeg y Canllaw Diffinio Darpariaeth Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog yng ngwanwyn 2026 yn dilyn proses fanwl o ymgynghori gyda'r sector a chydweithwyr yn Medr. Mae'r Canllaw yn darparu fframwaith cyson ar gyfer diffinio, cyfrifo ac adrodd ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y sector.

Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at ddarlithwyr a chydweithwyr sy'n cynllunio, darparu neu reoli darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Bydd yn cynnig cyflwyniad ymarferol i'r Canllaw, gan egluro'r egwyddorion sy'n sail iddo a sut y gellir ei ddefnyddio mewn cyd-destunau gwahanol.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn...

  • Deall sut mae'r Canllaw yn diffinio gwahanol fathau o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

  • Sicrhau eich bod yn defnyddio dull cyson wrth gynllunio ac adrodd ar ddarpariaeth.

  • Ystyried enghreifftiau ymarferol a sefyllfaoedd go iawn o'r sector.

P'un a ydych yn newydd i'r Canllaw neu eisoes wedi dechrau ei ddefnyddio, bydd y sesiwn hon yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu eich dealltwriaeth a sicrhau bod eich arferion yn cyd-fynd â'r dull cenedlaethol a fabwysiadwyd ar draws y sector.

Archebwch eich lle drwy'r ddolen isod.