Sesiwn anffurfiol i gyd-fynd â’r hyfforddiant newydd ar NVivo sydd ar gael ar Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr:
- Drafod yr adnodd newydd
- Deall beth yw NVivo a sut y gellir ei ddefnyddio i ddadansoddi data
- Gofyn cwestiynau a thrafod profiadau o ddefnyddio NVivo gydag Emma Grigorian
Mae'r gweithdy yn addas i unrhyw ymchwilydd sydd am ddysgu rhagor am NVivo.
Gofynnir i fynychwyr lawrlwytho NVivo a gwylio’r fideos yn yr adnodd ar y Porth cyn mynychu’r gweithdy, er mwyn cael y gorau o’r sesiwn.