Sesiwn anffurfiol i gyd-fynd â’r hyfforddiant newydd ar SPSS sydd ar gael ar Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr:
- Drafod yr adnodd newydd
- Deall beth yw SPSS a sut y gellir ei ddefnyddio i ddadansoddi data
- Gofyn cwestiynau a thrafod profiadau o ddefnyddio SPSS gyda Dr Awel Vaughan-Evans
Mae'r gweithdy yn addas i unrhyw ymchwilydd sydd am ddysgu rhagor am SPSS.
Gofynnir i fynychwyr lawrlwytho SPSS a gwylio’r fideos yn yr adnodd ar y Porth cyn mynychu’r gweithdy, er mwyn cael y gorau o’r sesiwn.