Dyddiad: 18/05/23
Lle: Cornerstone, Caerdydd
Amser: 10am - 3.30pm
Dewch i ymuno yn ein cynhadledd genedlaethol gyntaf wyneb-yn-wyneb ar gyfer y sectorau addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau.
Yn ystod y dydd, byddwn yn clywed gan Gomisiynydd newdd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones ac amryw o arbenigwyr ac academyddion blaenllaw.
Bydd themau'r dydd yn cynnwys technegau newid ymddygiad, pontio rhwng sectorau, cynllunio ieithyddol a bydd cyfle i ni rannu adnoddau newydd gyda chi.
Bydd hon yn gynhadledd ryngweithiol, gyda digon o gyfle i drafod a dysgu gan ein gilydd. Byddwn yn rhannu yn grwpiau llai yn ol sector yn y prynhawn, er mwyn trafod pynciau sydd yn benodol i'r sectorau gwahanol.
Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd bellach wedi cau ond os dymunwch i gael eich rhoi ar restr aros e-bostiwch e.williams@colegcymraeg.ac.uk
Mae rhaglen lawn y gynhadledd i'w gweld isod.
Trefn y diwrnod:
10.15 Cofrestru a phaned
10:30 Croeso – Cadeirydd Coleg Cymraeg, Dr Aled Eurig
10:35 Prif Siaradwr: Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
SESIWN 1:
11:00 Newid ymddygiad: annog a chymell myfyrwyr a dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
- Heledd Bebb, Ymchwil OB3;
- Dr Kelly Young, Prifysgol Metropolitan Caerdydd;
- Dr Osian Elias, IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith
12:30 - 13:30 Cinio a rhwydweithio
SESIWN 2:
13:30 - 14:20
Camu Ymlaen: Pontio a dilyniant rhwng sectorau (i ymarferwyr yn y sector addysg bellach ac addysg uwch)
- Dr Rhian Hodges, Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor;
- Anna Davies, Rheolwr y Gymraeg, Coleg Gŵyr Abertawe;
- Menna Jones, Swyddog Iaith Gymraeg Coleg Sir Gâr
Sesiwn blas ar adnoddau (sesiwn ar wahân i ymarferwyr yn y sector prentisiaethau)
- Mary Richards
SESIWN 3:
14:30 - 15:20
Meithrin graddedigion dwyieithog hyderus (Sesiwn i ddarlithwyr addysg uwch)
- Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd;
- Dr Mirain Rhys, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
I fyny’r pyramid: cyflwyniad gan Sgiliaith (Sesiwn i ymarferwyr addysg bellach a phrentisiaethau)
- Meggan Prys, Sgiliaith
- Marion Evans, Coleg Penybont.
15:20 Crynhoi - Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
15:30 Ymadael