Skip to main content Skip to footer
llun dyddiad 18 Mai

Cynhadledd Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2023

Dydd Iau, 18 Mai 2023
llun dyddiad 18 Mai

Dyddiad: 18/05/23

Lle: Cornerstone, Caerdydd

Amser: 10am - 3.30pm

Dewch i ymuno yn ein cynhadledd genedlaethol gyntaf wyneb-yn-wyneb ar gyfer y sectorau addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau.

Yn ystod y dydd, byddwn yn clywed gan Gomisiynydd newdd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones ac amryw o arbenigwyr ac academyddion blaenllaw.

Bydd themau'r dydd yn cynnwys technegau newid ymddygiad, pontio rhwng sectorau,  cynllunio ieithyddol a bydd cyfle i ni rannu adnoddau newydd gyda chi.

Bydd hon yn gynhadledd ryngweithiol, gyda digon o gyfle i drafod a dysgu gan ein gilydd. Byddwn yn rhannu yn grwpiau llai yn ol sector yn y prynhawn, er mwyn trafod pynciau sydd yn benodol i'r sectorau gwahanol.

Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd bellach wedi cau ond os dymunwch i gael eich rhoi ar restr aros e-bostiwch e.williams@colegcymraeg.ac.uk

Mae rhaglen lawn y gynhadledd i'w gweld isod.

 

Trefn y diwrnod:

10.15   Cofrestru a phaned

10:30   Croeso – Cadeirydd Coleg Cymraeg, Dr Aled Eurig

10:35   Prif Siaradwr: Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg

SESIWN 1:

11:00   Newid ymddygiad: annog a chymell myfyrwyr a dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Heledd Bebb, Ymchwil OB3;
  • Dr Kelly Young, Prifysgol Metropolitan Caerdydd;
  • Dr Osian Elias, IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith

12:30 - 13:30   Cinio a rhwydweithio

SESIWN 2:

13:30 - 14:20  

Camu Ymlaen: Pontio a dilyniant rhwng sectorau (i ymarferwyr yn y sector addysg bellach ac addysg uwch)

  • Dr Rhian Hodges, Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor;
  • Anna Davies, Rheolwr y Gymraeg, Coleg Gŵyr Abertawe;
  • Menna Jones, Swyddog Iaith Gymraeg Coleg Sir Gâr

Sesiwn blas ar adnoddau  (sesiwn ar wahân i ymarferwyr yn y sector prentisiaethau)

  • Mary Richards

SESIWN 3:

14:30 - 15:20    

Meithrin graddedigion dwyieithog hyderus (Sesiwn i ddarlithwyr addysg uwch)

  • Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd;
  • Dr Mirain Rhys, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

I fyny’r pyramid: cyflwyniad gan Sgiliaith (Sesiwn i ymarferwyr addysg bellach a phrentisiaethau)

  • Meggan Prys, Sgiliaith
  • Marion Evans, Coleg Penybont.

15:20   Crynhoi - Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

15:30   Ymadael