Skip to main content Skip to footer
mân lun cynhadledd ymchwil

Cynhadledd Ymchwil 2024

Dydd Gwener, 28 Mehefin 2024
mân lun cynhadledd ymchwil

Dyddiad: 28 Mehefin 2024

Lleoliad: Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ac ar-lein

Cynhadledd ryngddisgyblaethol i bawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.

Ddiwrnod cyn y Gynhadledd, cynhelir trafodaeth banel ar ddeallusrwydd artiffisial, a hyfforddiant i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr gyrfa gynnar ar rannu eich ymchwil drwy'r cyfryngau cymdeithasol a phodlediadau. 

Dyma'r papurau a gyflwynir yn ystod y gynhadledd: 

  • 'Gweriniaetholdeb amodol: Newid gwleidyddol yng Ngogledd America Prydeinig trwy lygaid yr Unol Daleithiau 1837–1867' - Dr Gareth Hallett Davis (Prifysgol Abertawe)
  • ​​​​'O'r ymylon i'r canol: Ailystyriaeth o daith gerddorol Grace Williams' - Elain Rhys Jones (Prifysgol Bangor)
  • 'Dull cyfrifiadurol ar gyfer rheoli rhagweithiol ocsid ar biblinellau dur’ - Megan Kendall (Prifysgol Abertawe)
  • ​​​​​​'Strategaethau amaethyddol y dyfodol yng Nghymru: ai’r farchnad, y darparwyr gwasanaethau ecosystem, neu’r arloeswyr arbenigol sy’n arwain?’ - Gwenllian Jenkins (Prifysgol Aberystwyth)
  • 'Mamiaith yn yr ystafell geni: Profiad merched a bydwragedd’ - Catrin Roberts (Prifysgol Bangor)
  • ‘Braslun astudiaeth ffactorau caffael iaith yn y gweithle’ - Dafydd Apolloni (Prifysgol Bangor)
  • ‘Ymhle y gellir dod o hyd i greadigrwydd yn 'Cwricwlwm i Gymru'? Dadansoddiad o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru gan ystyried y cyfleoedd a’r heriau a gynigir i athrawon ar lawr y dosbarth’ - Megan Sass (Prifysgol Caerdydd)
  • 'Datblygu profion llythrennedd Cymraeg newydd’ - Marjorie Thomas (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • ‘Olrhain ‘Y Bardd’: A ellir profi awduraeth tair cerdd anhysbys ymhlith papurau Gwenallt?’ - Gruffydd Davies (Prifysgol Aberystwyth)

Cynhelir hefyd gystadleuaeth Posteri Ymchwil, a gaiff ei beirniadu gan Dr Hywel Griffiths.

Dewch i gefnogi'r to nesaf o academyddion Cymraeg wrth iddynt drafod ffrwyth eu hymchwil. Bydd hwn yn gyfle da i'r gymuned ymchwil yng Nghymru gwrdd â'i gilydd, rhannu syniadau a phrofiadau, a hyrwyddo astudiaethau ysgolheigaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyddiad cau cofrestru i ymuno wyneb yn wyneb: 19 Mehefin