Skip to main content Skip to footer
hyfforddiant sgiliau ymchwil

Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol a phodlediadau i ymchwilwyr

Dydd Iau, 27 Mehefin 2024
hyfforddiant sgiliau ymchwil

Dyddiad: 27 Mehefin 2024

Amser: 11:00 - 18:30

Lleoliad: Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth

Hyfforddiant i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr gyrfa gynnar ar sut i rannu eich ymchwil drwy bodlediadau a'r cyfryngau cymdeithasol gyda Siân Morgan Lloyd a Gwenfair Griffith o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

Yn ystod y diwrnod byddwn yn:  

  • Dysgu am werthoedd cyfryngau cymdeithasol
  • Sut i ddal sylw 
  • Sut i greu ffeithlun llwyddiannus (infograffeg) 
  • Sut i dargedu cynulleidfaoedd gwahanol 
  • Sut i symleiddio iaith a chyfathrebu'n effeithiol 
  • Sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel dull ymchwil i gasglu barn a denu cyfranogwyr 
  • Sut i greu fideos / reels yn seiliedig ar waith ymchwil 
  • Sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu gwaith ymchwil yn llwyddiannus

Cofrestra i fynychu drwy'r ddolen isod!