Skip to main content Skip to footer
cynhadledd ymchwil 2025

Cynhadledd Ymchwil 2025

Dydd Iau, 26 Mehefin 2025 - Dydd Gwener, 27 Mehefin 2025
cynhadledd ymchwil 2025

Cynhelir Cynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg ar 26–27 Mehefin 2025 yn Aberystwyth.

Caiff y gynhadledd hefyd ei ffrydio ar sianel YouTube y Coleg (nid oes angen cofrestru i ymuno ar-lein)

Mae’r gynhadledd ryngddisgyblaethol flynyddol hon yn agored i bawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a'r ddisgyblaeth. 

Amserlen: 

Dydd Iau 26 Mehefin (Canolfan Gynadledda Medrus)

Dydd Gwener 27 Mehefin (Y Llyfrgell Genedlaethol)

  • 9:30am - 3:30pm: Y Gynhadledd Ymchwil

 

Dyma'r papurau a gyflwynir yn ystod deuddydd y gynhadledd:

  • ‘Tân a Thrydan: Dulliau Electrocemegol ar gyfer Thermocatalysis’ – Oliver Wright (Prifysgol Caerdydd)
  • 'Defnyddio diagramau dolen achosol i ddeall ymddygiadau yfed alcohol a’r niweidion cysylltiedig' - Elin Williams (Prifysgol Caerdydd)
  • ‘Sefydlogi emylsiynau trwy ddefnyddio tewychwyr ac emwlsyddion’ – Ieuan Roberts-Harry (Unilever, yr Iseldiroedd, a Phrifysgol Amsterdam)
  • ‘Cymru, y system-fyd, a'r longue durée - Dr Samuel Parry (Prifysgol Met Caerdydd) 
  • '‘Ffermio "synnwyr cyffredin" yw hwn': Archwiliad o deimladau a phenderfyniadau ffermwyr ynghylch mabwysiadu arferion amaethyddol cylchol’ - Ffion Evans (Prifysgol Bangor)
  • 'Rhoi llwyfan i leisiau benywaidd: cynrychiolaeth a'r Cwricwlwm Llenyddol' - Emily Evans (Prifysgol Abertawe)
  • ‘Cymhariaeth gymharol o effaith y defnydd o strategaethau drama a chelf ar gaffael geirfa ac idiomau'r Gymraeg ymhlith dysgwyr cynradd’ - Mari Rhian Owen (Prifysgol Aberystwyth)
  • 'AR-BRO-FI - Dehongli straeon brodorol yn nhirweddau hudolus Cymru' - Catrin Bradley (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
  • ‘Hunaniaeth a threftadaeth Gymreig ym Mharc Cathays, Caerdydd’ - Catrin Edwards-Greaves (Prifysgol Caerdydd)
  • ‘Tu hwnt i’r ddinas: ai trefi Cymru yw dinasoedd smart y dyfodol?' - Beca Lleucu Gwyddno (Prifysgol Bryste)
  • ‘Taith Iaith – addysg a thu hwnt: profiadau siaradwyr ifanc o fod yn siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd lle y ceir dwysedd isel o siaradwyr Cymraeg’ - Charlotte Amesbury (Prifysgol Bangor) 

Cynhelir hefyd gystadleuaeth Posteri Ymchwil, a gaiff ei beirniadu gan Dr Hywel Griffiths.

Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio gydag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.

Dewch i gefnogi'r to nesaf o academyddion Cymraeg wrth iddynt drafod ffrwyth eu hymchwil. Bydd hwn yn gyfle da i'r gymuned ymchwil yng Nghymru gwrdd â'i gilydd, rhannu syniadau a phrofiadau, a hyrwyddo astudiaethau ysgolheigaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â m.james@colegcymraeg.ac.uk

Dyddiad cau i gofrestru: 17 Mehefin 2025