Skip to main content Skip to footer
Mân lun galwad am bapurau

Galwad am bapurau

Dydd Gwener, 10 Mawrth 2023 - Dydd Gwener, 28 Ebrill 2023
Mân lun galwad am bapurau

Beth am gynnig cyflwyniad byr neu boster ymchwil ar gyfer y Gynhadledd Ymchwil eleni? 

Gellid cynnig un o'r canlynol: 

  • Cyflwyniad byw - disgwylir i gyflwyniadau byw fod yn 20 munud o hyd (gyda 10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau) 
  • Cyflwyniad wedi ei flaen-recordio - disgwylir i gyflwyniadau sy'n cael eu blaen-recordio fod yn 5 munud o hyd (gyda 5-10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau byw) 
  • Poster Ymchwil 

Rydyn ni'n gobeithio derbyn cynigion gan unigolion sy'n ymchwilio i bob math o bynciau, ac sy'n cynrychioli ystod eang o brofiad - o fyfyrwyr ôl-radd sydd ond megis dechrau ar eu hymchwil, i staff academaidd sydd â blynyddoedd o brofiad ac wedi cyhoeddi'n helaeth. Mae croeso i bawb gynnig! Rydym hefyd yn awyddus iawn i annog cynigion gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 

Mae cyflwyniadau a phosteri Cynhadledd Ymchwil 2022 i'w gweld ar Y Porth.

Anfonwch eich cynnig ar gyfer papur / poster (crynodeb 300 gair + paragraff o fywgraffiad) at m.james@colegcymraeg.ac.uk erbyn Dydd Gwener, 28 Ebrill 2023. 

Bydd y Gynhadledd Ymchwil yn cael ei chynnal yn Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth (ac ar-lein) ar 30 Mehefin 2023.