Digwyddiad: Gŵyl yr Haf, Coleg Cymraeg Cenedlaethol + Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe
Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2026
Amser: Digwyddiad diwrnod 10yb-2.15yp (cyrraedd ar ôl 9.30 i gofrestru)
Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, SA2 8PZ
Cynulleidfa: Dysgwyr Cymraeg Ail Iaith Bl.10, Bl.11 + Bl.12
Nod y diwrnod yw rhoi cyfle i ddysgwyr brofi elfennau o fyw, gweithio a chymdeithasu yn Gymraeg, ennyn diddordeb yn astudio Lefel A Cymraeg, paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, a chael blas ar astudio’r Gymraeg yn y brifysgol.
Yn ddathliad o'r Gymraeg, bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau astudio, gweithdai diddorol, sgyrsiau, ffair stondinau, cerddoriaeth a chyfle i gymdeithasu. Cyfraniadau gan Doctor Cymraeg; rhai o gystadleuwyr Y Llais (S4C); yr actores Isabella Colby Browne; Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe; a mwy - gan gynnwys ambell syrpreis! Yr union raglen i’w chyhoeddi maes o law.
Bydd yr holl weithgareddau am ddim, a gall y Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd gyfrannu at gostau teithio ysgolion ac unigolion i gyrraedd Abertawe. Bydd angen i bawb ddod â'u cinio eu hunain.
Mwy o wybodaeth yn y llythyr isod neu drwy gysylltu â ff.owen@colegcymraeg.ac.uk
Mae'r ffurflen gofrestru ar gael isod. Bydd angen cofrestru erbyn 24 Mehefin fan bellaf. Mae llefydd yn gyfyngedig a byddwn ni'n gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin. Rydym yn cadw'r hawl i gau'r ffurflen gofrestru yn fuan os oes angen.