Dyddiad: 27 Mehefin 2024
Amser: 11:00 - 18:30
Lleoliad: Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth
Hyfforddiant i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr gyrfa gynnar ar sut i rannu eich ymchwil drwy bodlediadau a'r cyfryngau cymdeithasol gyda Siân Morgan Lloyd a Gwenfair Griffith o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.
Yn ystod y diwrnod byddwn yn:
- Dysgu am werthoedd cyfryngau cymdeithasol
- Sut i ddal sylw
- Sut i greu ffeithlun llwyddiannus (infograffeg)
- Sut i dargedu cynulleidfaoedd gwahanol
- Sut i symleiddio iaith a chyfathrebu'n effeithiol
- Sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel dull ymchwil i gasglu barn a denu cyfranogwyr
- Sut i greu fideos / reels yn seiliedig ar waith ymchwil
- Sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu gwaith ymchwil yn llwyddiannus
Cofrestra i fynychu drwy'r ddolen isod!