Skip to main content Skip to footer
Mân Lun Sesiynau Adolygu Lefel A Cymraeg (Ail Iaith)

Sesiwn Adolygu (Lefel A Cymraeg Ail Iaith): Gweithdy Iaith

Dydd Mawrth, 9 Mai 2023
Mân Lun Sesiynau Adolygu Lefel A Cymraeg (Ail Iaith)

Dyddiad: 9 Mai 2023 | 4.30pm

Lleoliad: Zoom

Sesiwn adolygu byw ar Zoom ar gyfer dysgwyr Cymraeg Safon Uwch Ail Iaith (Bl.12 + Bl.13)

Dyma gyfle ichi adolygu a datblygu eich patrymau iaith er mwyn gallu eu defnyddio yn hyderus yn eich gwaith. Mae'r gweithdy yn un rhyngweithiol.

Ymunwch â ni i ymarfer ac adolygu cyn yr arholiadau.

*

Mae'r sesiwn adolygu hwn yn cael ei drefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac adrannau Cymraeg y prifysgolion ar gyfer dysgwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio UG/Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith.


Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal drwy Zoom am 4.30pm ar ddydd Mawrth 9 Mai ac yn para tua 45 munud. Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod. Croeso i ddysgwyr ac athrawon.