Skip to main content Skip to footer
trafodaeth: deallusrwydd artiffisial

Trafodaeth banel: Deallusrwydd artiffisial

Dydd Iau, 27 Mehefin 2024
trafodaeth: deallusrwydd artiffisial

Pryd? Dydd Iau, 27 Mehefin, 4pm

Ble? Tŷ Trafod Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth

Papur gan Dr Seren Evans ar ei gwaith ymchwil i rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn rhagfynegi anafiadau digyswllt i’r goes o fewn Rygbi’r Undeb, a thrafodaeth banel ar ddeallusrwydd artiffisial a'i oblygiadau, heriau a chyfleoedd i ymchwilwyr gyda:

  • Dr Cynog Prys, Uwch ddarlithydd, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Bangor
  • Dr Seren Evans, Darlithydd, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor
  • Dr Neil Mac Parthaláin, Uwch ddarlithydd, Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth
  • Yr Athro Huw Morgan, Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth

Mae'r digwyddiad yn rhan o Gynhadledd Ymchwil y Coleg a gynhelir y diwrnod canlynol.

 

Gwybodaeth bellach

Mae Dr Seren Evans yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor, ac yn aelod o’r Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol. Cyn hynny, cwblhaodd ei PhD, a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hi hefyd ym misoedd olaf o astudio ar gyfer ei gradd israddedig Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Wrecsam. Nod ei hymchwil a gyflwynir yn ystod y drafodaeth hon yw archwilio rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn rhagweld anafiadau o fewn Rygbi’r Undeb. 

Mae’r Athro Huw Morgan yn arwain grŵp ymchwil Ffiseg y Gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n arbenigwr ar ddatblygu offer a dulliau dadansoddi data ar gyfer arsylwadau o gorona’r haul, gan gynnwys defnydd cynyddol o ddulliau dysgu peirianyddol. Mae’n defnyddio DA yn ei waith ymchwil wrth ddefnyddio dulliau dysgu peirianyddol ar gyfer canfod a phriodweddu stormydd o’r haul mewn delweddau telesgopau gofod. Bydd hyn yn arwain at systemau rhybudd neu ddarogan tywydd y gofod sy’n fwy dibynnol yn y degawd i ddod. Mae Huw hefyd yn datblygu system dysgu peirianyddol tra-effeithlon i gyfrifo dwysedd a strwythur corona’r haul, gan ddisodli dulliau mathemategol sy’n fwy trwsgl a chymhleth.

Deallusrwydd artiffisial a’r Gymraeg yw maes diddordeb Dr Cynog Prys, sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei arbenigedd ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnydd iaith o fewn nifer o gyd-destunau gwahanol, gan gynnwys y defnydd o Gymraeg ar blatfformau digidol. Mae newidiadau aruthrol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf wrth i dechnoleg DA ddatblygu ar gyflymder, sy’n arwain at oblygiadau sylweddol i ieithoedd lleiafrifol, fel y Gymraeg, ac ieithoedd bach eraill y byd hefyd. Sut y mae’r Gymraeg yn cymharu â hyn? Mae difodiad digidol yn ofid, ond mae yma hefyd gyfleoedd i greu cynnwys newydd mewn ieithoedd bach, sydd â llai o adnoddau. Beth fydd safon cynnwys a darpariaeth DA ar gyfer siaradwyr Cymraeg? A fydd y safon yn is? Beth fydd oblygiadau hyn i sut mae pobl yn gwneud penderfyniadau dros ddefnyddio, astudio a gweithio yn y Gymraeg? Neu, a fydd DA yn achub y Gymraeg, gan ei rhoi ar droedle mwy cyfartal gyda’r Saesneg?

Mae Dr Neil Mac Parthaláin yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ac yn ymchwilydd deallusrwydd artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi ysgrifennu dros 60 o bapurau academaidd ac ymchwil ym meysydd dysgu peirianyddol, deallusrwydd peirianyddol, a chydnabod patrymau ar gyfer set amrywiol o gymwysiadau fel Rhag-brosesu Data, Gwybodeg Feddygol, Canfod Clefyd yr Ysgyfaint, Adnabod Mynegiant Dynol, ac ati. Bydd Neil yn dadlau nad oes dim i’w ofni o ran DA yn ei ffurf bresennol, ac na fydd peiriannau yn cymryd drosodd y byd!

I glywed rhagor, cofrestra isod i ymuno â'r drafodaeth.