Mae Bwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) wedi penodi Ann Beynon yn Gadeirydd tra bod y broses o benodi cadeirydd parhaol yn cael ei chwblhau.
Bydd yn olynu Dr Aled Eirug, a ddaeth i ddiwedd ei dymor gwasanaeth ar 31 Awst 2026.
Mae Ann yn wyneb cyfarwydd ym mywyd cyhoeddus Cymru ac mae ganddi brofiad o weithio mewn nifer helaeth o feysydd gan gynnwys busnes, addysg uwch a darlledu. Mae ganddi brofiad yn cadeirio byrddau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ac mae’n arbenigo mewn arweinyddiaeth, llywodraethiant a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR).
Bu Ann yn Gyfarwyddwr BT yng Nghymru cyn ymddeol yn 2015. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr dros Ddatblygu Busnes i Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ac yn Bennaeth Gwleidyddiaeth a Materion Rhyngwladol yn S4C. Bu hefyd yn Gomisiynydd Cymru y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol rhwng 2010 a 2016.
Mae Ann wedi cyflawni nifer o rolau llywodraethiant gan gynnwys bod yn aelod o Fwrdd y Coleg ers 2021, yn ymgynghorydd annibynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (2018-2022), ac yn aelod o Fwrdd Cwmni Dŵr Hafren Dyfrdwy. (2018-2024) Mae hi ar hyn o bryd yn Gadeirydd a Chyfarwyddwr Anweithredol cwmni yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru. Yn ystod y nawdegau roedd yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn 1999-2000 bu’n aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar Ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi. Bu’n aelod o Gyngor Prifysgol Bangor (2007-2010).
Graddiodd Ann gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Llywydd ar yr Undeb Myfyrwyr a chyfrannodd at sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymru.
Dywedodd Ann:
“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi yn Gadeirydd dros dro i Fwrdd y Coleg. Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn arwain y sefydliad wrth iddo adlewyrchu ar a dathlu llwyddiannau’r pymtheg mlynedd cyntaf.
“Mae cyfraniad y Coleg at sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg hyderus a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws sectorau amrywiol yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r ymddiriedolwyr eraill, y staff a’r partneriaid er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r pymtheg mlynedd cyntaf ac i gefnogi’r Coleg i symud ymlaen yn hyderus i’r cyfnod nesaf.”
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:
“Rwy'n croesawu penodiad Ann fel Cadeirydd dros dro Bwrdd y Coleg. Bydd ei phenodiad yn gaffaeliad i'r Coleg yn y cyfnod cyffrous sydd o'n blaenau.
“Ar ran aelodau'r Bwrdd, y swyddogion a phawb sy’n gysylltiedig â’r Coleg, hoffwn ddiolch i Dr Aled Eirug am ei wasanaeth fel Cadeirydd ers 2022. Yn ystod cyfnod Aled fel Cadeirydd, dynodwyd y Coleg (o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022) i gynghori Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ar ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas â’r Gymraeg. Dyma un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Coleg. Yng nghyfarfod Bwrdd olaf Aled fel Cadeirydd cymeradwywyd Cynllun Strategol newydd a fydd, yn dilyn ymgynghoriad, yn cael ei lansio yn yr hydref. Dymunwn yn dda i Aled yn y dyfodol.”
Mae’r Coleg yn hysbysebu ar hyn o bryd am ragor o aelodau i ymuno â’r Bwrdd, ac mae’r manylion am y cyfleoedd hyn ar gael ar wefan y Coleg.