Heddiw, dydd Mercher 7 Awst, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr cyntaf i ennill bwrsariaeth y Coleg er cof am y diweddar Dr Llŷr Roberts, fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.
Mae’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn noddi taith addysgol sy’n gysylltiedig â’u gradd. Mae’n cael ei chynnig am y tro cyntaf eleni gan y Coleg mewn cydweithrediad gyda theulu Llŷr a Phrifysgol Bangor.
Cyhoeddwyd y bydd chwe myfyriwr yn elwa o’r fwrsariaeth eleni yn nerbyniad blynyddol y Coleg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf
Bydd Gwernan Brooks, sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn teithio i Batagonia i gymharu Patagonia a Chymru o safbwynt ieithyddol a sosioieithyddol.
Norwy oedd dewis Megan Broom, sy’n astudio Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y fwrsariaeth yn cyfrannu at ei blwyddyn yn Bergen yn edrych ar ddaearyddiaeth ffisegol a thirffurfiau arbennig y wlad.
Bydd Shayla Virgo, sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru, yn teithio i America i archwilio’r system gyfreithiol a gwella ei dealltwriaeth o egwyddorion y gyfraith gyffredin yno.
A bydd tair myfyrwyr sy’n astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor, Hana Jones, Mia Owen a Seren Mai, yn teithio i Sri Lanka i gael profiad o weithio yn yr adrannau geni yn yr ysbytai yno.
Yn ôl Gwernan Brooks, sydd eisoes yn ei thrydedd wythnos ym Mhatagonia erbyn hyn,
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Coleg Cymraeg a theulu Dr Llŷr Roberts am y fwrsariaeth, fydd yn llawer o help i fy astudiaethau.
“Dwi wastad wedi bod eisiau ymweld â’r Wladfa ac wrth fy modd yn dod i adnabod a dysgu mwy am y gymuned Gymraeg allan yma.”
Ychwanegodd Megan Broom, sydd hefyd eisoes wedi cyrraedd Norwy erbyn hyn,
“Bydd y fwrsariaeth yn fy helpu i deithio o gwmpas Norwy ac rwy’n edrych ymlaen at astudio yma a gweld y tirffurfiau sydd yn unigryw i Norwy.
“Diolch eto am y fwrsariaeth sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosibl.”
Dr Llŷr Roberts oedd un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg,
“Roedd Llŷr yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn. Gwnaeth gyfraniad eang i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.
“Roedd yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio.
“Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod yn cynnig y fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg. Llongyfarchiadau mawr i’r chwech sydd wedi eu derbyn eleni.”
Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr Bwrsariaeth Dr Llŷr Roberts , cyhoeddwyd enillwyr Gwobr Yr Athro Gwyn Thomas a Gwobr Dr John Davies.
Cyflwynwyd Gwobr Yr Athro Gwyn Thomas i Esyllt Einion, sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a chyflwynwyd Gwobr Dr John Davies i Glain Meleri Hughes sy’n astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Glain:
"Hoffwch ddiolch i Brifysgol Aberystwyth, y Coleg Cymraeg, ac yn arbennig i fy narlithydd Dr Steve Thompson a wnaeth fy ysbrydoli i ysgrifennu traethawd ar fywyd a gwaith yn y meysydd glo.
“Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth o gyfraniad Dr John Davies i hanes a diwylliant Cymru ac mae'n fraint i mi ei hennill eleni."
Ewch i’r adran Wobrau ar wefan y Coleg i ddarllen mwy am gategorïau’r gwobrau.