Cynwal ap Myrddin o Benrhyn Llŷn yn ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg sy'n werth £3,000
Cynwal ap Myrddin o Lwyndyrys, Pwllheli, yw enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni sy'n cael ei rhoi i fyfyriwr sy’n dewis astudio 100% o’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n byw yng Ngwynedd.
Mae Cynwal, sydd newydd dderbyn ei lefel A mewn Hanes, Cymraeg ac Astudiaethau Busnes o Goleg Meirion Dwyfor, Pwllheli, Grŵp Llandrillo Menai, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sefydlwyd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Gyngor Gwynedd. Mae’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i unigolyn sydd wedi ymgeisio am un o brif ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg. Mae’r ysgoloriaeth yn werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).
“Roeddwn yn falch iawn i glywed fy mod wedi ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd”, meddai Cynwal, sy’n 18 oed, ac yn gyn-lysgennad ysgol y Coleg Cymraeg.
Dwi’n edrych ymlaen at symud i Gaerdydd i astudio’r Gymraeg yn y brifysgol ac ymwneud â’r gymdeithas Gymraeg yno. Bydd yr arian yn gymorth mawr, felly dwi mor ddiolchgar i Gyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am yr ysgoloriaeth.”
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: "Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Cynwal ar ennill yr ysgoloriaeth eleni a dymunwn bob llwyddiant iddo yn y dyfodol yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Gwynedd am ei gefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd.”
Meddai’r Cynghorydd Beca Brown, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am Addysg yng Nghyngor Gwynedd:
“Llongyfarchiadau gwresog i Cynwal ap Myrddin ar sicrhau Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phob dymuniad da iddo ar ei astudiaethau yng Nghaerdydd. Fel Cyngor, rydym yn falch o gefnogi myfyrwyr o Wynedd sydd am astudio a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn falch o fedru cydweithio â’r Coleg Cymraeg ar y gwaith pwysig o hyrwyddo’r ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.”
Fel aelod blaenllaw o’r gymuned ym Mhen Llŷn, mae Cynwal yn gweithio’n rhan amser yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn, yn golofnydd ar bapur bro Eifionydd, Y Ffynnon, yn chwarae rygbi i dîm Pwllheli, ac yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangybi. Mae ennill yr ysgoloriaeth ar ran ei sir enedigol yn bwysig iawn iddo felly. Meddai:
“Mae cael fy magu mewn ardal Gymraeg fel Llŷn sydd a chymaint o fwrlwm diwylliannol wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i mi feithrin fy niddordeb yn y Gymraeg a hanes fy ngwlad. Rwy’n frwdfrydig iawn i ehangu fy niddordeb a fy arbenigedd ar y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’r bwriad i ddychwelyd i fy ardal i weithio yn y dyfodol.”
Bydd y manylion mynediad i ymgeisio am ysgoloriaeth Cyngor Sir Gwynedd 2023 yn ymddangos yma ym mis Hydref 2022. Rhaid defnyddio Chwilotydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg er mwyn gwirio pa gyrsiau sy’n gymwys. Cysylltwch â’r Coleg Cymraeg drwy ffonio 01267 610400 am ragor o wybodaeth.