Heddiw, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyhoeddi gwerthusiad o weithgareddau penodol i gefnogi'r Gymraeg fel Pwnc.
Mae’r Coleg yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal gweithgareddau penodol i gefnogi'r Gymraeg fel pwnc. Cafodd y gweithgareddau hyn eu gwerthuso gan gwmni IAITH yn ystod 2023.
Nod y gwerthusiad oedd ystyried a oedd y cynllun yn cyflawni ei amcanion yn ystod 2018/19-2021/22, a chynnig argymhellion ar gyfer cynlluniau pellach i sicrhau gwelliant yn sefyllfa’r Gymraeg fel pwnc ac i ddiogelu’r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae’r adroddiad i'w weld ar y ddolen isod.
Diolch i bawb fu’n rhan o’r gwerthusiad.
Am fwy o wybodaeth am y Gymraeg fel Pwnc, ewch i'r dudalen berthnasol ar wefan y Coleg Cymraeg.