Skip to main content Skip to footer
26 Hydref 2023

Cyhoeddi trefniannau o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams am y tro cyntaf

ADD ALT HERE

Bydd casgliad o drefniannau o alawon gwerin gan un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru o’r ugeinfed ganrif, Grace Williams, yn gweld golau dydd am y tro cyntaf erioed diolch i nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r fyfyrwraig Elain Rhys, sydd wedi cyflawni gwaith ymchwil ar gyfraniad Grace Williams i gerddoriaeth Cymru fel rhan o’i chwrs gradd meistr yn Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor, dderbyn grant bach gan y Coleg i gyhoeddi’r trefniannau gwerin coll. 

Bydd yr alawon coll, yn ogystal â rhai o glasuron adnabyddus eraill Grace Williams, yn cael eu perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor am 7:30 nos Wener 3 Tachwedd gan lu o artistiaid gan gynnwys Elain Rhys, Angharad Wyn Jones, Cai Fôn Davies, Glesni Rhys Jones, Steffan Dafydd ac aelodau o Gôr Hŷn Ieuenctid Môn.

Bydd Elain a’i thiwtor a goruchwyliwr y prosiect, Yr Athro Pwyll ap Siôn, yn rhannu’r gwaith ymchwil wrth gyflwyno’r alawon ar y noson. 

Elain Rhys

Fy ngobaith yw y bydd fy ymchwil yn dwyn sylw haeddiannol i gyfansoddwraig na chafodd gydnabyddiaeth deilwng yng Nghymru nac ar Ynysoedd Prydain yn ystod ei hoes.

Elain Rhys

Cysylltir Grace Williams (1906-1977) yn bennaf â cherddoriaeth gerddorfaol, a rhan o’i gwaith sydd heb dderbyn yr un sylw yw ei threfniannau o alawon gwerin. Bu’n cyfansoddi nifer o drefniannau o alawon gwerin Cymraeg a Chymreig ar gyfer rhaglenni radio’r BBC yn ystod y 1950au, ond cred nifer na chafodd y gweithiau hynny sylw teilwng, ac o ganlyniad, prin iawn yw’r enghreifftiau sydd hyd yma wedi eu cyhoeddi, eu recordio a’u darlledu.  

Mae Elain, sydd erbyn hyn yn llunio astudiaeth o ‘The Parlour’, unig opera Grace Williams, ar gyfer gradd doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wrth ei bodd bod yr alawon coll yn cael eu cyhoeddi: 

“Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael perfformio a chyhoeddi’r gweithiau hyn. Rwy’n falch iawn y bydd rhai o drefniannau hyfryd Grace Williams, a gyfrannodd yn helaeth at dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, yn dod i sylw’r genedl am y tro cyntaf.” 

Ychwanegodd Elain: 

“Fy ngobaith yw y bydd fy ymchwil yn dwyn sylw haeddiannol i gyfansoddwraig na chafodd gydnabyddiaeth deilwng yng Nghymru nac ar Ynysoedd Prydain yn ystod ei hoes. 

“Mae’r diffyg cyhoeddiadau ac ymdriniaeth o’r gweithiau hyn yn creu’r camargraff nad oedd gan Grace Williams lawer o amser ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol ei gwlad. Roeddwn yn awyddus iawn i ymchwilio ymhellach i hyn a rhoi sylw i’w harddull leisiol gan geisio torri tir newydd. Mae ffynonellau pwysig megis gohebiaeth rhwng Grace Williams a’i ffrind, y cerddor Enid Parry (1911-1998), yn awgrymu’n gryf i’r gwrthwyneb - fod alawon traddodiadol yn agos iawn at ei chalon a’i bod wedi treulio peth amser yn ystod ei gyrfa yn ymddiddori yn yr alawon hyn. Wrth ddarllen trwy’r ohebiaeth a chraffu’n fanylach ar y gerddoriaeth, amlygir gwedd newydd - un llawer mwy Cymraeg a Chymreig, elfen bwysig am Grace Williams sydd wedi ei hanwybyddu i raddau helaeth gan ymchwilwyr y gorffennol. 

“Hoffwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gymorth y grant bach er mwyn ariannu’r prosiect cyhoeddi sydd wedi caniatáu i’r trefniannau hyn weld golau dydd am y tro cyntaf. Hefyd hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Gronfa James Pantyfedwen am ariannu’r cwrs meistr ym Mhrifysgol Bangor ac i’r Athro Pwyll ap Siôn am ei gymorth a’i arweiniad ar y prosiect.” 

 

Meddai Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 

“Mae cronfa grantiau bach y Coleg yn cefnogi nifer o brosiectau diddorol a chreadigol, ac roedd yn bleser gan y Coleg ariannu’r cynllun arloesol hwn i gyhoeddi gweithiau coll Grace Williams. Mae Elain wedi gweithio’n galed i gasglu ynghyd y trefniannau unigryw hyn, ac edrychwn ymlaen at ddathlu ei gwaith ymchwil a chlywed yr alawon arbennig yn y cyngerdd.” 

Am docyn mynediad i gyngerdd ‘Dathlu Grace Williams’ ar 3 Tachwedd yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, cysylltwch ag Elain Rhys ar muua63@bangor.ac.uk, neu ewch i wefan y Coleg Cymraeg am wybodaeth bellach. Mae’r trefniannau i’w cael i’w prynu ar wefan cwmni cyhoeddi Curiad.