Skip to main content Skip to footer
17 Mehefin 2021

Cynhadledd ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

ADD ALT HERE

Mae’r rhaglen lawn ar gyfer Cynhadledd Ymchwil y Coleg ar 29 Mehefin 2021 bellach ar gael, ac mae’n cynnig rhywbeth i bawb.

 

Dyma gyfle arbennig i glywed mwy am ddatblygiadau ymchwil diweddar trwy gyfrwng y Gymraeg – bydd y cyflwyniadau yn mynd i’r afael a materion megis ewthanasia, i’r Eisteddfod AmGen, a dewis iaith yn yr ystafell eni.  Mae rhai o deitlau’r papurau yn cynnwys:

  • Lladdiad Tosturiol: Creu amddiffyniad i lofruddiaeth mewn amgylchiadau marwolaeth cynorthwyedig’ (Lois Nash, Prifysgol Bangor, Ysgol y Gyfraith)
  • Bioddiogelwch ar ffermydd da byw y DU: Mewnwelediad o arferion presennol a barn ffermwyr’ (Cennydd Jones, Prifysgol Aberystwyth, IBERS)
  • Llwyfannau rhithwir ar faes heb ffiniau: dadansoddi Eisteddfod AmGen 2020’ Nici Beech, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant   
  • ‘Cadw a chynnal athrawon o fewn y proffesiwn: archwiliad o'r hyn sydd angen ei feithrin mewn darpar athrawon a'i gynnal trwy gydol gyrfa yn y byd addysg’ Rhian Tomos, Prifysgol Bangor, Ysgol Addysg

A llawer mwy!

Prif bwrpas y gynhadledd yw rhoi’r cyfle i’r genhedlaeth nesaf o academyddion Cymraeg eu hiaith dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Gwahoddir darlithwyr mwy profiadol ac ymarferwyr o’r amryw feysydd i ymuno a’r Gynhadledd, fel y gallant rannu eu harbenigedd gyda’r cyfranwyr ac ychwanegu at ysgogi ysbryd o gydweithio rhyng-sefydliadol a thrawsbynciol.

Dywedodd Lois McGrath, Swyddog Datblygu Ymchwil a Hyfforddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Rydw i’n falch ein bod ni’n gallu cynnal y gynhadledd ar-lein unwaith eto eleni, er mor braf byddai gweld pawb mewn un lleoliad. Cawsom nifer sylweddol o geisiadau ar gyfer cyflwyno papur yn ystod y gynhadledd, ac mae’r rhaglen yn llawn dop o ymchwil tu hwnt o ddifyr, a hynny ar draws ystod eang iawn o bynciau.  Mae rhywbeth yma i bawb.  Bydd y gynhadledd yn gyfuniad o gyflwyniadau byw a chyflwyniadau byrion fydd wedi eu blaen recordio, ac mae croeso cynnes iawn i bawb sy'n cynnal neu'n diddori mewn ymchwil ysgolheigaidd trwy gyfrwng y Gymraeg i ymuno a ni i fwynhau’r arlwy”.

Dyma ddywed Bedwyr ab Ion Thomas, myfyriwr PhD, sy’n cyflwyno yn y gynhadledd: “Dw i’n edrych ymlaen yn arw at gael cymryd rhan yn y Gynhadledd Ymchwil. Mae’n gyfle gwych i mi geisio defnyddio’r hyn dw i wedi dysgu yn ystod y Rhaglen Sgiliau Ymchwil dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn gyfle anhygoel i gael rhwydweithio gydag academyddion o feysydd tra gwahanol!”

Bydd y Gynhadledd yn cychwyn am 9:30 ar ddydd Mawrth 29 Mehefin, a bydd cyfres o gyflwyniadau byw a chyflwyniadau byrion wedi’u blaen recordio yn llenwi’r rhaglen eleni – chewch gyfle i holi cwestiynau i’r holl gyfranwyr yn fyw dros y sgrin.

Mae copi o’r rhaglen lawn, sy’n cynnwys bywgraffiad y cyfranwyr a chrynodeb o’r papurau ymchwil ar gael yma: Rhaglen y Gynhadledd

Yn ystod yr wythnos nesaf, bydd y Coleg yn rhyddhau posteri ymchwil y gellid eu mwynhau ymlaen llaw, a bydd cyfle i bleidleisio dros eich hoff boster yn ystod y gynhadledd, gyda chyfle i awdur y poster buddugol ennill £50.

Gellir dilyn ffrwd y gynhadledd ar Twitter gan ddefnyddio #cynhadleddymchwil21 – mae croeso i bawb ymuno yn y sgwrs!

Gofynnir i bobl gofrestru ymlaen llaw er mwyn i’r Coleg Cymraeg rannu dolen at y Gynhadledd: Ffurflen Gofrestru