Skip to main content Skip to footer
5 Chwefror 2024

Dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

ADD ALT HERE

Llysgenhadon Prentisiaethau'r Coleg Cymraeg yn annog eraill i wneud prentisiaeth ac i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle. 

 

Mae Elliot Wigfall o Bontypridd yn brentis trydanol gyda landlord cymdeithasol, Trivallis, yn ardal Rhondda Cynon Taf. 

 

Wrth weithio tuag at ei NVQ Lefel 3 mewn gwaith trydanol gyda Choleg y Cymoedd, cafodd ei ddewis i fod yn un o lysgenhadon prentisiaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni. Ei rôl ydy hyrwyddo manteision yr iaith Gymraeg yn y maes prentisiaethau. 

 

Yn ei amser sbâr, mae Elliot yn un o gyfranwyr Gogglebocs Cymru ar S4C! Fel rhywun felly sydd wedi ymdrochi’n llwyr yn y Gymraeg yn gymdeithasol ac yn yr ysgol, roedd yn gam naturiol iddo y byddai’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol. 

 

Meddai Elliot, 

“Dwi’n treulio llawer o amser yng nghartrefi pobl, ac os wyt ti’n siarad Cymraeg, mae’n gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig yn yr ardal yma lle does 'na ddim llawer o bobl yn gallu ei siarad hi. Mae bob diwrnod yn wahanol, ac mae prentisiaeth yn ffordd dda o ddysgu a chael cymwysterau, tra hefyd yn cael cyflog.” 

Elliot wrth ei waith

Ar ôl gadael ysgol a chael NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal cafodd Kathryn Steven, 25 oed o Gaerdydd swydd mewn ysbyty mewn adran Iechyd Meddwl. Erbyn hyn mae’n gweithio tuag at NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag ACT Training. Mae Kathryn yn mwynhau’r hyblygrwydd y mae prentisiaeth yn ei gynnig. Meddai Kathryn: 

 

“Rwyf yn mwynhau fy mhrentisiaeth yn fawr oherwydd rwy’n gweithio rhan fwyaf o’r amser ac yn gwneud cwrs ar-lein gyda chefnogaeth mentor. Yn ddiweddar wnes i ddarganfod fod gen i ADHD sy’n esbonio pam roeddwn i’n gweld hi’n anodd canolbwyntio . Rwyf nawr yn teimlo fod gen i bethau o dan reolaeth – dwi’n gallu dewis pryd ydw i yn gwneud y gwaith o gwmpas fy shiffts, ac rwy’n angerddol iawn dros godi ymwybyddiaeth dros y Gymraeg yn y maes iechyd a gofal.” 

Kathryn

Y cyngor gorau y mae Guto Wyn Roberts, Prentis 17 oed o Lechryd yn ei roi i bobl ifanc eraill ydy i gadw meddwl agored am eu haddysg ar ôl gadael yr ysgol. Mae Guto erbyn hyn yn dilyn cwrs prentisiaeth i fod yn saer gyda Choleg Ceredigion a chwmni adeiladau lleol, Steven Edward. Meddai: 

 

“Dwi wrth fy modd gyda’r rhyddid sy’n dod gyda’r swydd a dilyn prentisiaeth. Rwy’n teimlo’n lwcus hefyd fy mod i’n gallu siarad Cymraeg bob dydd gyda fy nghydweithwyr a gyda chleientiaid wrth fy ngwaith, ac yn y coleg.” 

 

Ar hap a damwain y wnaeth Dewi Richards-Darch ystyried y cyfle i wneud prentisiaeth, ar ôl cymryd diddordeb mewn gwaith yr oedd cwmni adeiladu lleol yn ei wneud wrth ymyl ei gartref. Erbyn hyn mae Dewi yn gweithio i ddarparwr hyfforddiant ITEC fel Rheolwr Cwricwlwm, ac yn gweithio tuag at NVQ Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth trwy ei gyflogwr.Meddai: 

 

“Ers cychwyn ar fy mhrentisiaeth, dwi heb edrych yn ôl, ac wedi llwyddo i ddatblygu llawer o sgiliau gwerthfawr mewn cyfnod byr. Byddwn i’n annog pawb i ystyried gwneud prentisiaeth.” 

 

Dewi Richards-Darch

Mae nifer o brentisiaid tu hwnt i’n llysgenhadon yn elwa trwy astudio rhan o’u prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, fel Tomos Tudor Jones o Ynys Môn. Penderfynodd Tomos i wneud prentisiaeth yn ystod y cyfnod clo pan ddechreuodd i weithio gyda’i dad sy’n adeiladwr. Mae Tomos erbyn hyn yn brentis Peirianneg gyda chwmni Jones Brothers yn Rhuthun ac wedi cael profiadau gwych yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ar brosiect ar ei stepen ddrws. Meddai:

 

Fy mhrofiad cyntaf oedd gweithio ar brosiect ynni llif llanw, ‘Menter Môn Morlais’. Dyma un o’r cynlluniau cyntaf o’i fath, ac roedd yn brofiad anhygoel chwarae rhan fach yn y broses. Roeddwn ychydig yn nerfus ar y dechrau ond roedd pawb mor gyfeillgar. Roedd medru sgwrsio a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud y profiad yn gymaint brafiach, yn enwedig â minnau mor agos i adref.”

 

Tomos Tudor

Am fwy o wybodaeth ar brentisiaethau ewch i wefan y Coleg Cymraeg. 

 

Hefyd mae modd i gyflogwyr a/neu coleg addysg bellach enwebu prentis talentog sydd wedi serennu yn y gweithle a sydd â dyfodol disglair o’i flaen am Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2024. Ewch i wefan y Coleg am y manylion yn llawn ac i enwebu unigolyn cyn y 8 Mawrth.