Skip to main content Skip to footer
26 Mai 2023

Eisteddfod yr Urdd 2023

ADD ALT HERE

Eleni, am y tro cyntaf, bydd y Coleg Cymraeg yn noddi Gŵyl Triban. Gŵyl o fewn gŵyl sy'n cael ei chynnal ddydd Gwener a dydd Sadwrn, yr 2ail a'r 3ydd o Fehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin. Mae'n rhoi llwyfan i’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru.

Fel rhan o'r nawdd bydd criw o Lysgenhadon Ysgol a Phrifysgol y Coleg yn cael gyfle i:

  • Cymryd drosodd cyfri’r Coleg a chyfri’r Urdd ar Instagram i roi blas o’r Wyl dros y 2 ddiwrnod
  • Cyfweld y bandiau: Gwilym, Tara, Dros Dro a Fflur de Lys
  • Cyflwyno Gwilym, Tara Bandito a Dafydd Iwan ar y llwyfannu perfformio
  • Cael mynediad i gefn llwyfannau’r Ŵyl

Mae 2 sesiwn y Coleg Cymraeg yn ran o amserlen perfformio Gŵyl Triban:

Tesni Hughes (cyn-lysgennad ysgol David Hughes) fydd yn perfformio am 12:30 dydd Gwener

Elain Iorwerth  (llysgennad ysgol eleni o Ysgol Godre'r Berwyn) o'r grwp Mynadd yn canu am 17:40 dydd Sadwrn

Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata, Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

Mae hi'n bleser noddi Gŵyl Triban eleni fydd yn rhoi cyfle gwych i'n llysgenhadon gael profiadau gwerthfawr. Byddant yn cyflwyno a chyfweld o lwyfannau Triban ac yn rhoi blas i ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol y Coleg Cymraeg a'r Eisteddfod o arlwy yr Ŵyl.

Bydd BBC Radio Cymru yn cyfweld a’n llysgenhadon ni fydd yn ran o Griw Triban eleni wythnos nesaf!

"Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn cydweithio gyda'r Coleg Cymraeg a'r llysgenhadon ar gynnwys digidol Gŵyl Triban eleni. Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i'r Coleg am eu Cefnogaeth Ariannol ac yn edrych ymlaen at weld cynnwys digidol y llysgenhadon ar gyfryngau cymdeithasol y Coleg Cymraeg ac Eisteddfod yr Urdd."

Nannon Evans Rheolwr Nawdd a Phartneriaethau, Eisteddfod yr Urdd.

 

Fel bob blwyddyn bydd stondin y Coleg ar y maes felly cofiwch alw heibio i'n gweld ni! Cyfle i gasglu gwybodaeth am fanteision astudio drwy'r Gymraeg yn y brifysgol gan gynnwys yr ysgoloriaethau gwerth hyd at £3000 i ddarpar fyfyrwyr a llawer mwy!

Amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol i bob oed a chyfle i ennill gwobrau!

Bydd cyfle i gael gwybodaeth bellach am ein Ap Chwaraeon newydd hefyd! 

Edrychwn  ymlaen at groesawu pawb i'n stondin ni eleni yn Llanymddyfri!

Gallwch ddilyn ein holl weithgareddau o faes yr Urdd drwy ddilyn ein cyfryngau cymdeithasol @colegcymraeg

Llysgenhadon Triban