Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd siaradwyr Cymraeg rhwng 16-19 oed Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig i ymuno â’i Gynllun Sbarduno sy’n rhoi cefnogaeth i bobl ifanc barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ac i feithrin eu hyder wrth wneud.
Yn ôl Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg, pwrpas y cynllun ydy sicrhau fod pobl ifanc Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn cael y cyfle i drafod eu dyfodol gyda mentor all gynnig cyngor ac arweiniad iddyn nhw ar sut i wneud y mwyaf o’u sgiliau Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
Meddai Emily:
“Mae’r Gymraeg yn agor cymaint o ddrysau ac mae’n bwysig bod disgyblion Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig yn gallu gweld bod cyfleoedd i hyfforddi, astudio a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ac yn berthnasol iddyn nhw.
“Wrth ddod â’r mentoriaid a’r myfyrwyr at ei gilydd i drafod profiadau, heriau a chyfleoedd, ac i gynnig cymorth a gwybodaeth, ein gobaith ydy meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr Cymraeg.”
Cafodd peilot o’r cynllun mentora ei gynnal llynedd, ac fe gafodd Leon Edwards-Ohimekpen sydd yn ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, ei fentora gan Ashok Ahir. Mae Ashok yn ffigwr adnabyddus mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru ac yn Gadeirydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, a Chyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru.
Meddai Leon:
“Fel rhywun sydd â rhieni na aeth i’r brifysgol, roedd cael y cyfle i siarad gyda mentor sy’n siarad Cymraeg ac wedi bod i’r brifysgol yn gyfle amlwg i fi ddysgu. Dwi’n awyddus i fynd i’r brifysgol a chael gyrfa sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn y maes iechyd a gofal.
“Rwy’n credu fod cael mentor sy’n siarad Cymraeg mor bwysig oherwydd mae’n dangos bod pobl yn gallu bod yn llwyddiannus yn defnyddio eu Cymraeg. Ers bod ar y cynllun, dwi wedi datblygu fy hyder a hoffwn i nawr fod yn fodel rôl i blant ifanc eraill o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.”
Cafodd Cerys Webber, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gwent Is Coed, Casnewydd, brofiadau positif iawn ar y cynllun ar ôl cael ei mentora gan y gyflwynwraig a’r comedïwr, Melanie Owen. Meddai Cerys:
“Roedd y cynllun yma wedi dod ar yr amser cywir i fi oherwydd roeddwn i wir angen siarad â rhywun. Roedd Mel mor gyfeillgar i mi a mor barod i helpu. Fe wnaeth hi ddangos bod llawer o gyfleoedd ar gael i mi i gael gyrfa llwyddiannus yma yng Nghymru trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
“Rwy’n annog pob person ifanc sydd o gefndir lleiafrifol ethnig i ymuno â’r cynllun yma.”
Yn ôl Summer Allwood, sy’n fentor ar y cynllun, ac sy’n dilyn gyrfa yn y maes Troseddeg yn y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf,
“Pan gododd y cyfle i fod yn rhan o’r Cynllun Sbarduno i gynnig cymorth a chyngor i rywun yn y chweched ddosbarth ro’n i methu aros i ymuno. Roedd y ddwy ohonom o gefndiroedd Cymraeg a Jamaicaidd felly roedden ni’n gallu rhannu ein profiadau o fod yn siaradwyr Cymraeg sy’n perthyn i gymuned leiafrifol ethnig a'r ffaith ein bod yn falch iawn o hynny.”
Ychwanegodd Natalie Jones, Swyddog Cynnwys Addysg S4C, sydd hefyd yn fentor ar y cynllun:
“Rwy’n hapus iawn i fod yn rhan o’r cynllun pwysig yma fydd yn siŵr o newid bywydau pobl ifanc. Fel person sy’n perthyn i gymuned sy’n cael ei thangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus, rwy’n gallu uniaethu â’r her ychwanegol sydd yn bodoli i gyrraedd uchelgais mewn bywyd.
“Er bod sgiliau gen ti, weithiau dwyt ti ddim yn hyderus, ac mae angen rhywun fel mentor i ddweud wrthyt dy fod yn haeddu bod yn y rôl neu ar y cwrs fel unrhyw un arall.”
Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig rhwng 16-19 oed cyn 8 Hydref 2024. Ewch i'r dudalen hon am wybodaeth pellach. Gwyliwch fideo am y cynllun ar sianel You Tube y Coleg
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:
“Rydym yn falch iawn o’n cynllun newydd a phwysig, Cynllun Sbarduno. Mae cryn dipyn gyda ni fel Coleg ac fel sector i wneud yn y maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Gwrth-hiliaeth ac mae’r cynllun Sbarduno yn enghraifft o sut ryn ni’n rhoi ein strategaeth ar waith er mwyn sicrhau bod addysg drydyddol Gymraeg a dwyieithog yn agored i bawb beth bynnag eu cefndir.”