Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu llwyddiannau'r myfyrwyr, dysgwyr, prentisiaid a’r darlithwyr mwyaf disglair a’r rheiny sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn.
Mae amryw o gategorïau ac mae Gwobrau’r Coleg yn gyfle gwych i gydnabod unigolion sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn ei phrifysgol neu goleg addysg bellach.
Mae’r cyfle i enwebu unigolion ar gyfer y gwobrau nawr AR AGOR!
I weld y rhestr lawn o gategorïau, y canllawiau, ac i enwebu, ewch i'r adran ‘Gwobrau’ ar wefan y Coleg Cymraeg.
Dyma’r Gwobrau y gallwch enwebu unigolion ar eu cyfer eleni:
Gwobrau Addysg Bellach a Phrentisiaethau:
- Gwobr Cynllun Gwreiddio - Addysgwr Arloesol - Cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol.
- Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfraniad arbennig - Bydd y wobr hon yn cael ei rhoi i aelod o’r tîm rheoli sy'n dylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn ei sefydliad.
- Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfoethogi profiad y dysgwr/prentis - Cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector am gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiol sefyllfaoedd llai ffurfiol.
- Gwobr Addysg Bellach William Salesbury - Cydnabod cyfraniad dysgwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach.
- Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce - I gydnabod prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle.
Gwobrau Addysg Uwch:
- Gwobr Merêd - Cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol yn ehangach.
- Gwobr Meddygaeth William Salesbury - Cydnabod arloesedd prosiect ymchwil neu gyfraniad at weithgareddau cyfredol allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.
- Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol - Am greu adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.
- Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Gwobr Dathlu’r Darlithydd – Mae’r wobr yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.
- Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg - Am gyfraniad eithriadol i addysg uwch (tu hwnt i rôl broffesiynol). Nid yw’r categori hwn yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar gyfraniad oes – mae modd cydnabod unigolion am gyfraniad dros gyfnodau byrrach lle bu'r effaith yn nodedig. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.
Mae’r cyfnod enwebiadau yn cau ar 8 Mawrth, 2024.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrau ar 20 Mehefin yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Ewch i X, Instagram, Facebook neu Tik Tok y Coleg i weld fideo newydd yn dangos uchafbwyntiau o noson wobrau llynedd.
Darllenwch stori enillydd 2023 Dathlu’r Darlithydd, Gwyneth Hayward, a’i enwebydd, myfyrwraig Ffion Targett yn adran Newyddion ar wefan y Coleg.