Skip to main content Skip to footer
13 Ionawr 2022

Newyddiaduraeth o bedwar ban byd gyda Maxine Hughes

ADD ALT HERE

Flwyddyn yn union ers i Joe Biden gael ei urddo yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, bydd y newyddiadurwr o Gymru, Maxine Hughes, sy’n byw a gweithio yn Washington, yn cynnal sesiwn gyntaf mewn cyfres o sesiynau ar-lein ar gyfer dysgwyr a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa neu astudio newyddiaduraeth.

 

Mae Maxine yn enw ac yn wyneb cyfarwydd i nifer fawr erbyn hyn, nid yn unig am ei gwaith newyddiadurol, ond hefyd am fod yn gyfieithydd swyddogol I’r sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wrth iddyn nhw brynu clwb pêl-droed Wrecsam, a gwneud cymaint o’r gwaith o hyrwyddo hynny yn ddwyieithog.

Dywedodd Maxine:

“Mae'r Unol Daleithiau yn le cyffrous a diddorol i fod yn newyddiadurwr. Un o fy mlaenoriaethau yw ceisio dod â’r straeon cymhleth a phwysig i gynulleidfa Gymraeg. Dylem fod yn gwthio ffiniau, ac yn gwneud penawdau yn y Gymraeg ar y straeon tramor, yn ogystal â gartref yng Nghymru. Rydw i’n gyffrous i siarad am y syniadau hyn ac yn wir eisiau i unrhyw un sy'n ystyried gyrfa mewn newyddiaduraeth deimlo y gallent ofyn unrhyw beth i mi. Dwi eisiau cefnogi newyddiaduraeth Cymraeg cymaint â phosib.”

Yn ôl Mared Jones, Swyddog Datblygu gyda’r Coleg Cymraeg:

“Mae’r Coleg yn falch iawn o gael cefnogi prosiect o’r fath, ac i ddangos nad oes ffiniau wrth astudio, a dilyn gyrfa newyddiadurol drwy gyfrwng y Gymraeg, i’r gwrthwyneb, mae’n agor sawl drws cyffroes.”

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn ariannu’r prosiect ac fe drefnir y sesiynau ar y cyd gyda Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r sesiwn cyntaf ar ddydd Iau 20 Ionawr rhwng 3 a 4yp. Annogir disgyblion, dysgwyr a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa neu astudio ym maes Newyddiaduraeth i gofrestru ac ymuno yn y sesiynau. Gellir cofrestru drwy fynd i wefan Porth Adnoddau’r Coleg.